MR. ELLIS O. OWENS, SLATEFORD, PENNSYLVANIA.

Mai 31ain, 1883, yn Slateford, Pennsylvania, o'r darfodedigaeth, Ellis O. Owens, brodor o Dolwyddelen, Gogledd Cymru, yn 29 mlwydd, 10 mis a 28 diwrnod oed.

Daeth i'r wlad hon oddeutu 11 mlynedd yn ôl. Treuliodd rai blynyddau yn Bangor, Pennsylvania, a'r pum mlynedd diweddaf yn California, o'r hwn le cyrhaeddodd yma ychydig wythnosau cyn ei ymddatodiad, gyda'r bwriad o farw yn nhy ei unig frawd a pherthynas yn ôl y cnawd.

Gellid ysgrifenu llawer ar ragoriaethau amlwg y gŵr ieuanc duwiol hwn, ond ni chaniata eich gofod. Y mae perarogl ei esiampl a'i goffadwriaeth yn aros yn bersawrus yn holl gylchoedd ei ddefnyddioldeb yn Bangor a California.

Bu farw yn orfoleddus yn yr Arglwydd, a chafodd gladdedigaeth tywysog mewn mynwent gerllaw afon y Delaware, yn agos i Portland, Pennsylvania, pryd y gwasanaethwyd yn ei angladd gan weinidogion parchus yn Saesneg a Chymraeg. Yr oedd yn aelod o urddau yr Odd Fellows a'r Knights of Pythias, y rhai a ddangosasant barch a theyrnged o goffadwriaeth i'w weddillion yn ei angladd.

Y Drych ~ Gorphenaf 12fed 1883.