MR. OWEN W. OWENS, WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.
Ebrill 19eg, 1883, yn West Bangor, Pennsylvania, Owen W. Owens, tua 67 mlwydd oed.Daeth i'r wlad hon o Bentir, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, tua 32 neu 33 mlynedd yn ôl, a threuliodd ei oes yn yr ardal hon.
Terfynodd ei yrfa yn lled ddirybudd. Boreu dydd Iau deallodd ei briod fod rhyw anosmwythyd arno, a chyfododd gan alw y plant; ond bu ei gwr farw cyn i'r meddyg gyraedd. Y dybiaeth yw mai ergyd o'r parlys a gafodd.
Chwarelwr ydoedd wrth ei alwedigaeth; ond yr oedd wedi rhoddi yr alwedigaeth hono heibio er's blwyddyn neu ychwaneg, gan fod ei iechyd yn gwaethygu, a dim angen yn galw arno ddal ati.
Y mae iddo wralg a thri o blant i alaru a theimlo colled ar ei ôl - y plant oll wedi priodi, sef mab a dwy ferch.
Yr oedd Mr. Owens yn gymydog caredig, ac yn hynod am ei onestrwydd; ond rhaid cael gafael ar rywbeth yn ychwaneg na hyny. "Am hyny byddwch chwithau barod, canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn." Y parodrwydd hwnw yw credu a derbyn y mab. Claddwyd ef yn barchus gan i dyrfa luosog o Gymry ac Americanaidd y dydd Sadwrn canlynol; yn mynwent State Ridge, pryd y gweinyddwyd wrth y tŷ ac yn y capel gan y Parch. Mr. Smith.