MRS. LAURA POWELL, NEW CAMBRIA MACON CO, MISSOURI.

Awst 3ydd, 1883, yn ardal New Cambria, Macon County, Missouri, Mrs. Laura Powell, priod Mr. Robert Powell, yn sydyn iawn o'r parlys, ya 59 mlwydd oed.

Ganwyd hi ger Harlech, Gogledd Cymru. Pan tua deg oed symudodd at borthynsau yn Nolgellau, lle yr arhosodd hyd ei hymfudiad i'r America yn 1853, Enwau ei rhieni oeddynt Samuel ac Ellen Griffiths.

Derbynwyd hi yn aelod eglwysig gan yr hybarch J. Jones, Dolgellau, pan ond deuddeg mlwydd oed. Ymbriododd. Mr. Powell yn New York, Ionawr, 1855. Buont fyw flynyddoedd yn nghylchoedd Pittston a Plymouth, Pennsylvania, lle y mae iddynt lawer o gyfeillion. Bu iddynt naw o blant, o ba rai y mae pump yn fyw, pedwar o fechgyn ac un ferch.

Daearwyd ei gweddillion yn y gladdfa ger New Cumbria, Awst 4ydd - un o'r claddedigaethau lluosocaf a welwyd yma - y Parch. G. Griffiths, ei gweinidog cyntaf a diweddaf yn America yn gweinyddu.

Y Drych ~ Awst 23ain 1883.