MRS. ANN PUGH, CHESTNUT STREET, UTICA, NEW YORK.
Mawrth 26ain, 1883, tra mewn ffit, Mrs Ann Pugh, anwyl brlod Mr. Hugh Pugh, 6 Cheshnut Street, Utica, New York, yn 54 mlwydd oed.Bu Mrs. Pugh yn cael ffitiau am flynyddau; ond yn y misoedd diweddaf nid oedd yn eu cael mor aml. Dydd Sadwrn diweddaf, tra yr oedd yn cyflawni ei gorchwyl teuluaidd, cymerwyd hi gan un o'r ffitiau; ond nid oedd neb yn meddwl na buasai yn dyfod drosti fel arfer. Modd bynag, fel yr oedd yn dyfod o un byfddai yn cael ei chymeryd gan un arall, ac felly hyd y nos Lun a nodwyd, pryd y profodd yn angeuol iddi am saith o'r gloch yn yr hwyr.
Galwyd meddyg, ond er holl ymdrech hwnw ni bu o nemawr les. Gadawodd briod tyner a phedwar o blant, yn nghyd a brodyr a chwiorydd, i alaru.
Ymfudodd Pugh a'i deulu i'r wlad hon o Dowyn, Meirionydd, tua 15 mlynedd yn ôl, a sefydlasant yn Waterville, New York; ond tua blwyddyn yn ôl daethant i Utica, ac yma y preswyliant yn awr.
Claddwyd hi y dydd Mercher canlynol yn Forest Hill Cemetery, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. W. B. Joseph yn Saesneg. Cydymdeimlir yn fawr â Mr. Pugh gan bawb o'i gydnabod, yn enwedig y rhai hyny yn nghymdogaeth Waterville.