MRS. ELIZABETH PUGH, COLUMBUS, WISCONSIN.

Rhagfyr 7fed, 1883, yn Columbus, Wisconsin, Mrs. Elizabeth Pugh, yn 73 mlwydd ac wyth mis oed. Merch ydoedd i Rees Evans y crydd. Dyffryn Ardudwy, Sir Feirionydd.

Priododd ag Ellis Pugh. Medi 19eg, 1828, a bu iddynt 10 o blant, pedwar o'r rhai sydd yn awr yn fyw, sef tri mab ac un ferch. Cafodd y tri mab y fraint, o hebrwng gweddillion eu hanwyl fam i dŷ eu hir gartref i fynwent Cambria, a diau y buasai yn dda gan y ferch fod yn bresenol hefyd, ond oherwydd pellder ffordd nis gallai fod.

Yn Racine, Wisconsin, y sefydlasant gyntaf yn y wlad hon, a buont yno oddeutu pedair blynedd cyn symud i Rockhill, Wisconsin, lle y gwnaethant eu cartref am 17 mlynedd. Symudasant oddiyno i Lake Emily; ac yma y bu hi hyd o fewn tri mis i'w marwolaeth.

Daearwyd ei gweddillion dydd Llun y 10fed, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. David Pugh.

Yr ydoedd yn feddianol ar lawer o rinweddau. Yr oedd yn onest ac yn gofalu am dalu ei dyledion i bawb. Yr oedd hefyd yn un haelionus at bob achos da. Mae yr ysgrifenydd yn cofio iddo alw yn ei thy fwy nag unwaith i gasglu at wahanol achosion: ac O! mor siriol y byddai yn ein derbyn. Ni byddai eisiau treulio amser yn ofer i ddadleu a chroes-ddadleu: na, byddai ei rhodd yn barod wrth law. Hefyd yr ydoedd yn ffyddlon i ddylyn moddion gras hyd y caniatai ei hiechyd, a gwnaeth ymdrech mawr lawer gwaith i ddod i'r cape!. Byddai yn gorfod gorpbwyso amrai weithiau ar y ffordd gan mor fyr ei hanadl. Wedi dyfod i'r addoldy gwrandawai yn astud, a gellid deall wrth edrych arni ei bod yn mwynhau llawer yn y moddion.

Ei phrofiad yn gyffredin ydoedd weddol dda. Tystiolaethai yn y gyfeillach eglwysig ei bod yn cael pleser mawr yn y Beibl. Cafodd fordaith bywyd ddigon tymestlog; ond yr ydym yn hyderu yn gryf ei bod wedi cyraedd yr orphwysfa lle ni raid iddi ofni yr un ystorm i'w goddiweddyd mwy.
W. O. WILLIAMS.

Y Drych ~ Ionawr 3ydd 1884.