MR. HUGH PUGH, NELSON, MADISON COUNTY, NEW YORK.

Ionawr 24ain, 1883, yn nhy ei fab yng nghyfraith, Mr. William Evans, yn West Eaton New York, Hugh Pugh, yn 65 mlwydd oed.

Math o glefyd melyn, yr hwn a dorodd yn ddyfrglwyf ydoedd ei afiechyd.

Brodor o Lanegryn, Meirionydd, Gogledd Cymru ydoedd a daeth ef a'i briod oedranus i'r wlad hon o Liverpool tua 1834. Ar ôl bod am beth amser yn New York ac Utica, aeth i gartrefu i West Bangor Pennsylvania, lle yr oedd amryw o'i gydnabod a'i gydweithwyr. Dychwelodd eilwaith i Utica, ac yn y diwedd sefydlodd yn Nelson, Swydd Madison, New York, lle yr oedd ei ferch a'i fab Hugh yn aros.

Yr oedd yn foesgar a boneddigaidd yn ei gymdeithas - nid oedd "ymadrodd ffol a choeg ddigrifwch yn dyfod o'i enau." Bu yn aelod crefyddol yn eglwysi y Wesleyaid yn Meirionydd am 30 o flynyddau - 21 yn Abergynolwyn a 9 yn Arthog. Dywedir am y wenynen, ei bod yn dra gofalus rhag i'r mêl a'r cwyr lynu wrth ei chorff fel ag i'w rhwystro gyda'i gorchwyl. Felly yntau, ni roddodd lawer o'i fryd a'i serch ar bethau y byd hwn, rhag iddynt luddias iddo lafurio am y pethau ni dderfydd. Gellir dweyd ar ôl iddo fyned yr ochr arall i'r dwfr, iddo fyned a'r cwbl gydag ef, a'r pethau hyny yn llawer mwy sylweddol a pharhaol na phethau y ddaear hon.

Er iddo farw yn mhell o'i wlad enedigol, mae'n gorwedd yn ymyl lluaws o'i gydgenedl wrth gapel yr Annibynwyr yn Nelson.

Y Drych ~ Mawrth 15fed 1883.