MR. ELLIS PRICHARD, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Bedyddiwyd Ellis mab Richard ac Ellin Griffith, Ty Mawr, Aberdaron ar 3ydd Ebrill, 1803, yn Eglwys Sant Hywyn Aberdaron.Priododd Ellis gyda Lowry Roberts o blwyf Llanfaelrhys yn Eglwys Aberdaron ar 9fed o Chwefror, 1832 ac yn fuan wedyn ymfudasant i'r America ar y brig Edward, hwylio o Lerpwl ar 31 Mai 1832.
Ellis Prichard 29.
Lowry Prichard 24.
Yn America, sefydlu yn ardal Remsen, Efrog Newydd.
Bu Ellis Prichard farw ar Medi 6 1883 yn 80 oed.
A bu Lowry Prichard farw ar Mai 3 1884 yn 76 oed.
Mae'r ddau wedi cael eu claddu ym mynwent Capel Penycaerau yn Remsen.
Glyn Roberts ~ Awst 2021.
MR. ELLIS PRICHARD A'I BRIOD, MRS. LAURA PRICHARD, REMSEN, ONEIDA, NEW YORK.
Medi 6ed, 1883, yn Remsen, New York, Ellis Prichard, yn 80 mlwydd oed.Ar yr 8fed dygwyd ei weddillion marwol i'r Capel Ceryg, lle y bu yn aelod ffyddlon am flynyddau lawer, ac wedi y gwasanaeth crefyddol arferedig, yn cael ei gario yn mlaen gan amrai o frodyr y pentref, hebryngwyd ef i'e briddo yn mynwent Penycaerau.
Mai 3ydd, 1884, yn Remsen, New York, Mrs. Laura Prichard, gweddw y diweddar Ellis Prichard, yn 76 mlwydd oed.
Ar y 6ed, awd a hi i'r Capel Cedryg, lle y cynhaliwyd y gwasanaeth, ac yna gosodwyd hi i orwedd wrth ochr ei phriod yn Penycaerau.
Ganwyd a magwyd y ddau yn agod i'w gilydd, y cyntaf ym mhlwyf Aberdaron, a'r diweddaf ym mhlwyf Llanfaelrhys, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Ymddengys i'r ddau ymuno â chrefydd pan yn ieuangc, sef cyn iddynt briodi, ac ymhenrhyw haner blwyddyn ar ôl yr ymgysylltiad priodasol, daethant i'r wlad hon, sef yn y flwyddyn 1832. Treuliasant y rhan fwyaf o'u hoes yn ardaloedd Penycaerau a Remsen; a thrwy ddiwydrwydd ac ymdrech, buont yn llwyddianus i ddod yn gysurus o ran eu, hamgylchiadau bydol. Yr oedd eu didwylledd a'u geirwiredd, ynghyd a rhodiad addas i efengyl Crist, yn peri eu bod yn neillduol barchus gan bawb a'u hadwaenant, a thystiolaeth y cyfryw yw eu bod yn Israeliaid yn wir yn y rhai nid oedd twyll.
Yr oedd eu ffyddlondeb yn gyfryw ag y gellir ei ddal i fyny fel yn deilwng o efelychiad. Pan yr oeddynt yng nghanol eu dyddiau, byddent yn cerdded amryw o filltiroedd, weithiau deirgwaith yr un Sabboth er mwyn bod yn bresenol i fwynhau moddion gras, ac wedi i nychdod a henaint wneyd eu hol arnynt, ceid eu presenoldeb yn y moddion cyhoeddus a'r Ysgol Sabbothol, os na byddai rhyw rwystr neillduol. Amlwg yw oddiwrth hyn y gellid disgwyl i'r dylanwad crefyddol â pha un y cafodd eu plant eu breintio, ddwyn ffrwythau yn eu bywydau a'u bucheddau hwy, ac y mae disgwyliad hyny wedi cael ei sylweddoli trwy eu bod oll yn aelodau defnyddiol o eglwys Crist.
Yr oedd yn hawdd canfod fod Mr. Prichard, yn neillduol, yn cael nid yn unig dyddordeb mawr yn Ngair yr Arglwydd, ond fod ei ysbryd yn dwyn delw y gwirionedd trwy ei fod yn mynych ymgydnabyddu ag ef. Yr oedd wedi dyfod i deimlo mai ymdeithydd yn aros dyfodiad y cerbyd i'w gludo ymaith ydoedd, ac yr oedd wedi ymbaratoi i fyned iddo. Yr oedd pob peth yn barod, ac yntau yn ymadael yn llawen ac nid yn drist, i fynd i mewn i dŷ ei Dad, i feddianu y lle a baratowyd iddo gan ei Frawd Hynaf.
Y tro diweddaf y gwelais ef, cwynai oherwydd anhwylderau corphorol, a chydnabyddai nad oedd ganddo ond amser byr i'w ddyoddef. Addefai fod ei ddefnyddioldeb ar ben - ei waith wedi ei orphen - a'i fod yn ymgysuro y byddai i'w Feistr cyn bo hir, ei alw o'i winllan i noswylio. Ar i'w hanwyl blant, sydd wedi eu gadael i alaru ar ôl rhieni duwiol, fod yn feddianol ar eu hysbryd ymroddgar hwy i wasanaethu yr Arglwydd yw ein taer ddymuniad.
Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ionawr 1885.
MR. ELLIS PRICHARD, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
I, Ellis Prichard of the town of Remsen, and State of New York mindful of the uncertainties of human life do make, publish and declare this my last Will and Testament in manner following :First : After the payment of my just debts and funeral expenses I give, devise and bequeath to my wife Laura Prichard all of my Estates both real and personal forever.
Second : I hereby nominate and appoint Robert W. Roberts of Remsen Oneida County New York the Executor of this my last Will and Testament and hereby authorize and empower him the said Robert W. Roberts to compound compromise and settle any claim or demand which may be against or in favor of my said estate, but without being required to give any Bonds.
In witness whereof I have hereunto set my hand and seal this 29th day of March 1880.
The mark of Ellis Prichard.
Signed, published and declared by the said testator to be his last Will and Testament in presence of us who have signed our names at his request as witnesses in his presence and in presence of each other.
Robert W. Roberts residing in Remsen Oneida County New York.
Richard Richards residing in Remsen Oneida County New York.