MRS. JANE RICHARDS, PIKE GROVE, RACINE, WISCONSIN.
Awst 11eg, 1883, Jane Richards, priod Richard Richards, Pike Grove, Racine, Wisconsin. Y dydd Mawrth canlynol ymgynullodd tyrfa luosog a galarus i dalu y gymwynas olaf iddi, pryd y gweinyddwyd yn y tŷ gan y Parchn. J. P. Williams, a Stone, Racine, ac wrth y bedd gan yr ysgrifenydd.Ganwyd Mrs. Richards yn Cwmyrafon, plwy Llanbedr, Meirionydd, yn Mawrth, 1822, felly yr oedd yn 61 oed Mawrth diweddaf.
Enwau ei rhieni oedd Humphrey a Laura Evans.
Chwefror, 1841, priododd gyda Richard Richards, Dolygan, Dyffryn Ardudwy, ac yn Ebrlll canlynol ymfudasant i'r wlad hon - gadawsant Lerpwl Ebrlll 19eg, a glaniasant yn New York Mehefln laf. Gwnaethant eu cartref yn Pike Grove, a gwenodd Rhaglunlaeth arnynt. Gadawodd bump o blant ar ei hol, pedwar o'r rhai sydd wedi priodi. Yr oedd Mrs.Richards yn un y cofir yn hir amdani yn yr ardal hon, a bydd ei choffadwriaeth fel gwin Libanus.
Yr oedd yn hynod am gysuro a chynorthwyo mewn adeg o gyfyngder; fe gafodd dalent i gysuro rhai galarus. Clywaid ddweyd fod o gant i gant a haner o gerbydau yn ei hangladd Ond yn y capel yr oedd ei chartref, bu yn proffesu crefydd am lawer o flynyddoedd, a byddai yn wastad yn mhob cyfarfod, a bob amser wrth ei bodd, ac yn tystiolaethu ei bod yn cael pleser. Yr oedd yn dweyd ac yn dangos yn eglur ei bod yn ceisio gwlad.
Yn ei hymadawiad cafodd y nefoedd berl prydferth; ac ni bu galaru mwy ar ôl un aelod na'r hwn sydd yn eglwys Pike Grove ar ôl y chwaer hon.
Collodd yr ysgrifenydd un fyddai bob amser yn ei gynorthwyo; yr eglwys un fyddai bob amaer yn ei chalonogi; yr ysgol Sabbothol un fyddai yn gweithlo drosti; a rhal o'r tu allau i'r eglwys wedi eu gadael gan un a gymellodd lawer arnynt, a gobeithiwn mai wedi ei chladdu y ceir gweled nad aeth ei llafar yn ofer yn yr Arglwydd. Ein gweddi yw ar i Dad yr amddifad, a Barnwr y gweddwon ddweyd with ei phrlod galarus, "Myfi yw dy darian a'th wobr mawr iawn;" y mae wedi gorchymyn "ac ymddiried dy weddwon ynof fi." Ac wrth el phlant dywedaf, "Ffydd yr hon dylynwch gan ystyried diwedd ei hymarweddiad;" a'n gweddi fyddo fel eglwys am i ddau barth o'i hysbryd syrthio ar lawer yn ein cymydogaeth.
J. H. GRIFFITH.