MR. JOHN ROBERTS, CAMBRIA, WISCONSIN.
Ionawr 19eg, yn Cambria, Wisconsin, wedi gadael ei 83 mlvydd oed, John Roberts, Pen-y gwryd, sef enw ei hen gartref yn Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, lle ganwyd iddynt wyth o blant, o'r rhai yr oedd pump yn fyw i weinyddu arno er ei gysur yn ei ddyddiau olaf.Cymerodd yr angladd le ddydd Llun yr 22ain; a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Thomas Foulkes, a John R, Jones, Oshkosh. Yr oedd llawer iawn i ddyweyd am Roberts, acos yr oedd yn un hynod ar lawer o ystyriaethau; ond gan fod y diwrnod yn eithafol oer, 37 o raddau islaw zero, ni ddywedwyd ond ychydig, ac ni ddywedaf inau ond ychydig, gan y dysgwyl i'r Cofiant iddo yn y Cyfaill, cylohgrawn yr enwad y bu yn flaenor doeth a ffyddlawn gyda hwy am lawer o flynyddoedd. Cafodd ei adael yma cyhyd ag y gallodd wneyd dim, a disgynodd i'r bedd fel tywysen wedi addfedu, heb ond ychydig iawn o gystudd. Bydd ei gall a'i ffraeth ddywediadau ar ein oof yn hir - "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig."
HEN LANC O CAMBRIA.