MR. MORRIS ROBERTS, WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.

Ebrill 18fed, 1883, yn Welsh Prairie, Wisconsin, yn 73 mlwydd oed, Morris Roberts, mab i'r diweddar Robert Rowlands, Llanberis, Gogledd Cymru a brawd i'r hynod John B. Rowlands, Penygwrhyd diweddar o Cambria.

Ymfudodd Mr. Roberts gyda ei deulu i America o gylch 37 mlwydd yn ôl, pryd yr oedd amgylchoedd Cambria yn wlad newydd, a dlgonedd o dir y llywodraeth i'w gael ynddi. Ymsefydlodd ar ddarn o dir da a manteisiol, i'w wneyd yn fan ei gartref hyd derfyn ei oes. Er nad oedd ganddo lawer o eiddo yn ei feddiant, mwy na'r cyffredln o lafurwyr Cymru y pryd hwnw, ac er fod iddo deulu lluosog i ofalu am danynt, eto trwy lafur a darbodaeth llwyddodd nid yn unig i wneyd gwelliantau costus ar y tyddyn, ond hefyd i ychwanegu ato o bryd i bryd, nes dyfod yn un o amaethwyr mwyaf cefnog a llwyddianus y sefydliad. Os bu gorfod iddo adael cydmar ei fywyd yn weddw, a naw o blant ei ofal yn amddifaid ar ei ôl, eto fe'u gadawodd felly â chyfoeth lawer yn gysgod rhyngddynt a dim angen.

Heblaw fod Mr. Roberts wedl llwyddo i gasglu cyfoeth helaeth iddo ei hunan a'i deulu, fe lwyddodd hefyd i gasglu iddo ei hunan drysorfa gyfoethog o wybodaeth grefyddol a chyffredinol, fel yr edrychld i fyny ato fel gŵr o safle ac ymddiried ar gyfrlf ei wybodaeth a'i allu. Fe deimlodd awdurdod argyhoeddiadol crefydd yn gorchfygu ei holl gyndynrwydd yn Nghymru pan oedd nerth Duw trwy y weinidogaeth "yn bwrw cestyll i'r llawr, fel y sefydlwyd ei feddwl byth yn y syniad, mai nerth gras Duw yn unig sydd ddigonol i achub pechadur, a'i fod felly hyd yr eithaf hefyd.

Os ychydig oedd ei ymddiried yn ngallu pechadur i ymgeleddu ei hunan, yr oedd ganddo bob mesur o ymddiried yn nhrefn gras, a dylanwad Ysbryd Duw i gyraedd yr amcan gyda'r penaf o bachaduriaid. Ar ôl llenwi ei gylch fel aelod cyffredin o radd dda yn eglwys Jerusalem o'i sefydliad, pan farnwyd yn ddoeth cael ychwaneg o ddiaconiaid yno, yn ngwanwyn y flwyddyn 1872, erbyn i'r Parch. John J. Roberts, a'r diweddar Hugh R. Hughes, y rhai a anfonwyd i'r Cyfarfod Dosbarth, gyfrif pleidleisiau yr eglwys, cafwyd fod Mr. Roberts wedl ei ddewis gydag unfrydedd mawr.

Trwy gryn fesur o draflerth y llwyddwyd i gael ganddo ufuddhau i'r alwad; ond derbyniwyd ef yn ddiacon i'r Cyfarfod Dosbarth nghyfarfod Seion, Mai 22ain, 1872, ac o'r adeg hono allan bu a'i ysgwydd yn dyn o dan yr achos fel diacon, a daeth i fod mor ddefnyddiol trwy ddyddlondeb, fel y gadawyd bwlch llydan yn wag yn yr eglwys yn ei farwolaeth.

Ebrill 21ain, ymgynullodd tyrfa luosog o berthynasau a chyfeillion i dalu y gymwynas olaf i'w weddillion. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchn. John R. Jones, Thomas Foulkes, John J. Roberts, Thomas R. Jones a Mr. Joshua Roberts. Bydded nawdd Duw dros ei weddw a'i blant.

Y Drych ~ Mai 10fed 1883.