MR. EDWARD ROBERTS, DODGEVILLE, IOWA, WISCONSIN.

Awst y 9fed, yn Dodgeville, swydd Iowa, Wisconsin, ar ôl tri diwrnod o gystudd, Edward Roberts. Ei ddolur oedd poen llymdost yn y cylla.

Ar y lOfed, ymgasglodd tyrfa luosog o Gymry a Saeson i dalu y gymwynas olaf iddo. Darllenodd a gweddiodd y Brawd David Jenkins. Wedyn hebryngwyd ei weddillion i Dodgeville. Traddododd y Brawd Hugh Roberts, ar lan y bedd, amryw o gynghorion dwys, a gweddiodd. Yna trodd pawb eu cefnau, gan adael y pridd yn y pridd i orphwys hyd udganiad yr udgorn diweddaf, pryd y y caiff y marwol hwn wisgo anfarwoldeb. Y Sabboth canlynol, traddododd y Parch. David Jones bregeth ar yr achlysur, oddiwrth 1 Sam. xx. 3.

Yr oedd y trengedig yn fab i Mr. William Roberts, Llawr-y-Betws, ger Corwen, swydd Feirionydd; a daethai ef a'i frawd i'r wlad hon oddeutu chwe bìynedd yn ôl. Mae ei frawd yn byw yn Jackson, Ohio, mor bell ag yr ydwyf yn deall. Buasai y trengedig yn byw dair blynedd yn y lle yma. Yr oedd yn ddyn o gymeriad da, ac yn anwyl gan bawb a'i hadwaenai.

Effeithiai yr amgyichiad sobr hwn ar deimladau y dorf yn gyffredinol. Agwedd pawb a ddygai dystiolaeth i'r gwirionedd, nad yw yr yrfa yn eiddo y cyflym, na'r rhyfel yn eiddo y cedyrn; ond cyngor Duw a saif, a'i ewyllys ei huna wna.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1846.