MR. OWEN R. ROBERTS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Yn mhlwyf Remsen, Mehefin 13eg, 1846, Mr. Owen R. Roberts, yn 84 mlwydd oed.

Ymfudodd i'r wlad hon, o swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, tua 27 mlynedd yn ol. Yr oedd yn Nghymru yn aelod o eglwys Loegr, ac yn y wlad hon dangosai barch mawr i grefydd a darllenai lawer ar y Bibl, ond nid oedd wedi ymuno ag un eglwys ar ol dyfod yma.

Pregethwyd ar achlysur y gladdedigaeth gan y Parchn. Thos. T. Evans a Morris Roberts.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Gorphenaf 1846.