MR. WILLIAM ROBERTS, NEW YORK.

Yn ninas New York, Hydref 5, 1846, Mr. William Roberts, yn 60 mlwydd oed.

Ymadawodd ef, ei wraig a mab iddynt a Rhiwgyfylcbi, Sir Conwy, yn swydd Gaernarfon, Cymru,tua 6 wythnos yn ol, a chyrhaeddasant y lle hwn ar y 4 o'r mis a nodir uchod, ac ar y 7 dydd yr oedd yn cael ei gladdu, wedi bod yn glaf tua 4 wythnos ar y mor.

Bu Mr. Roberts yn grefyddwr hardd gyda yr Annibynwyr am flynyddau lawer, ac yr oedd yn dawel a hyderus cyn ac wrth farw. Gadawodd wraig a 4 o blant (oll yn America ac yn grefyddol) i alaru ar ei ol.

Gweinyddwyd y gwasanaeth crefyddol ar ddydd ei gladdedigaeth i luaws o'i berthynasau ac amryw o Gymry mwyaf cyfrifol y ddinas, gan y Parch. J. J. Jones.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1846