MRS. ELIZABETH THOMAS, AVA, NEW YORK.
Ebrill 15fed, 1883, yn Ava, New York, Mrs, Elizabeth Thomas, anwyl briod Robert Thomas, ar ôl maith nychdod o'r parlys.Bu farw yn dawel gan adael priod a thri o blant i alaru ar ei hol.
Genedigol oedd o Ynys Enlli, Gogledd Cymru, ond daeth i'r wlad hon yn lled ieuanc, a bu yn yr ardal hon am lawer o flynyddoedd, ac yn aelod ffyddlon o eglwys Webster Hill.
Dydd Mercher y 18fed, claddwyd hi gan dorf barchus, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Mr. Reynolds.