MR. EVAN THOMAS, CAMBRIA, WISCONSIN.
Gorphenaf 4ydd, 1883, yn ardal Cambria, Wisconsin, yn 58 mlwydd a 9 mis a haner oed, o'r cancer ar y coluddion, Mr. Evan Thomas.Dyoddefodd gystudd trwm am dros ddwy llynedd, yn dawel a hynod ddirwgnach, a bu dan ofal llawer o feddygon, a bu yn Chicago yn ymgyngori â meddyg yno, ond ni ddywedodd hwnw beth oedd ei anhwyldeb, os gwyddai.
Genedigol oedd o Sir Gaernarfon, yn agos i Lanbedr, Gogledd Cymru, lle y ganwyd iddynt ddau o blant, sef mab a merch, ac mae y ferch yn briod â Wm. P. Jones, eich gohebydd doniol o Racine. Ymfudodd ef a'r teulu i'r wlad hon ers naw mlynedd ar hugain yn ôl, a buont yn Nhalaeth New York am ddwy flynedd, pryd y symudasant i Cambria; ac ar ôl gweithio o gwmpas am rai blynyddoedd, a byw yn gynil, prynodd dyddyn tua dwy filldir i'r gorllewin o Cambria, ac yno y bu hyd ei farwolaeth. Gadawodd briod a thri o blant, a llu mawr o gyfeillion i alaru ar ei ôl.
Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parch. David Pugh. Gofala yr Arglwydd am ei weddw, yr hon sydd wedi ei gadael yn hynod amddifad, a'r hon sydd wedi bod am flynyddoedd yn mwynhau cysuron bywyd, ei phriod a'i phlant o'i deulu, ond heddyw wedi ei gadael yn unig.
HEN LANC O CAMBRIA.