MR. OWEN K. THOMAS, WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.
Medi 8fed,1883, yn West Bangor, Pennsylvania, wedi hir waeledd, Owen K. Thomas, yn 68 mlwydd oed.Brodor ydoedd yr ymadawedig o gymydogaeth Bethesda, Arfon, Gogledd Cymru.
Gadawodd ar ei ôl weddw a phump o blant. Yr oedd yn gymydog caredig, ac yn un a fawr hoffid gan bawb.
Hebryngwyd ei weddillion marwol gan dyrfa luosog i fynwent Slateville, pryd y gweinyddwyd wrth y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parch. E. J. Hughes.