MR. RICHARD R WILLIAMS, MILWAUKEE, WISCONSIN.

Mai 5ed, 1883, yn Milwaukee, Wisconsin, yn 70 mlwydd oed, o'r darfodedigaath, Richard R Williams, y Boarding House, fel yr adwaenid ef yn gyffredin.

Yr oedd cylch ei adnabyddiaeth yn bur helaeth yn y ddinas, ac o'r herwydd daeth torf bur lluosog yn nghyd dydd Llun i dalu iddo y gymwynas olaf o gludo ei weddillion i'r Forest Home. Dygwyd y gwasanaeth crefyddol yn mlaen yn y tŷ ac ar lan y bedd gan yr ysgrifenydd.

Yr oedd yr ymadawedig yn enedigol o Lithfaen, ger Nefyn, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Yn fuan ar ôl ymuno mewn glan briodas â Miss Jane Roberts, o Foelgwnys, o'r un ardal, daethant ill dau i'r wlad hon yn 1840. Ar ôl tirio yma arosasant flwyddyn yn y Dwyrain; yna daethant yn mlaen i Racine, Wisconsin, ac arosasant yno saith mlynedd. Wedi hyny symudasant i Montello, ger Portage. Wisconsin, a buont byw yno ar ffarm am 18 o flynyddoedd; ac oddiyno daethant i Milwaukee, lle y buont byw hyd nes daeth angau i'w gwahanu, trwy ei gymeryd ef ymaith a gadael Mrs. Williams yn weddw.

Bu iddynt saith o blant, pedwar o'r rhai sydd eto yn fyw, sef un mab a thair merch. Amddifadwyd hwy o'i merched hefyd o'u gwyr yn ddiweddar, fel y mae trallod ar ôl trallod wedi bod yn curo yn bur ddiorphwys ar feddwl a chalon ein hen chwaer anwyl Mrs. Williams.

Yr Arglwydd fyddo yn oleuni ac yn nerth iddi o dan ei phrofedigaethau.
ENOCH JONES.

Y Drych ~ Mehefin 7fed 1883.