MR. RICHARD A. WILLIAMS, ALTON ILLINOIS.

Awst 9fed, 1883, yn Alton, Illinois, Richard A. Williams, o'r cancer yn yr ystumog, wedi cystudd o tua chwe mis, yn 44 mlwydd oed. Genedigol oedd o yn agos i'r Bala, Gogledd Cymru, ac ymfudodd i'r wlad hon tua'r flwyddyn 1859, gan ymsefydlu yn Racine, Wisconsin. Ymunodd a'r fyddin Undebol, a bu yn filwr ffyddlon am dair blynedd.

Priododd yn Racine ag Ann Nicolls, chwaer y diweddar Joseph Nicolls, a fu farw rai blynyddau yn ôl yn Utlca, New York. Symudodd ef a'i deulu i Alton tua deng mlynedd yn ôl, a bu yn cario ei fusnes o tanner yn mlaen hyd ei farwolaeth, a gadawodd ar ei ôl briod hoff a dau o blant, sef mab a merch, mewn gwlad estronol lle nad oes un perthynas iddynt.

Daeth ychydlg Gymry yr ardal a lluaws o genedloedd eraill yn nghyd i hebrwng ei weddillion marwol i fynwent Alton. Gweinyddwyd ar yr achlysur yn y tŷ ac ar lan y bedd gan un o weinidogion y lle.
JOHN EVANS.

Y Drych ~ Medi 6ed 1883.