MR. WILLIAM WILLIAMS, BRISTOL GROVE MINNESOTA.
Ionawr 11eg, 1883, yn nhŷ ei ferch, Mrs. Ann Williams, Bristol Grove, Minnesota, yn 88 mlwydd oed, yr henafgwr parchus William Williams (Pant Coch), ar ôl chwe diwrnod o gystudd o'r pneumonia.Claddwyd ef dydd LJun, y 15fed, wrth ochr ei briod yn mynwent Bristol Grove. Cyrhaeddodd yr oll o'r plant yno i dalu y gymwynas olaf i'w tad - sef pedwar o feibion ac un ferch. Yr oedd y tywydd yn lled arw. Gweinyddwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parchn. J. W. Morgan, J. D. Williams a R. Isaac.
Yr oedd wedi bod yn ddiacon gyda'r T. C. am dros 46 mlynedd yn ddifwlch. Ganwyd ef yn Hafodlas, Nant Nantlle, Llanllyfni, Sir Gaernarfon. Gogledd Cymru. Daeth ef a'i deulu i America yn 1846, a sefydlasant yn ardal Blue Mounds, Wisconsin. Bwriadwn anfon cofiant am dano i'r Cyfaill, lle yr ymddengys hanes mwy cyflawn.
Ei nai - J. W. WILLIAMS.