MR. WILLIAM WILLIAMS, PLAINFIELD, OTSEGO COUNTY, NEW YORK.
Mawrth 9fed, 1883, yn 74 mlwydd oed, yn nhy ei fab, Mr. John Williams, Plainfield, Otsego County, New York, o glefyd y galon, William Williams.Ganwyd ef mewn ffarmdy o'r enw Penlan, yn nghymydogaeth y Bala, Gogledd Cymru. Ymfudodd i'r wlad hon yn 1851 o blwyf Llanuwchllyn. Sefydlodd yn ardal Penygraig, ger Remsen, New York. Bu yno hyd y flwyddyn 1862, pryd y symudodd i Plainfield.
Bu yn proffesu crefydd am lawer o flynyddoedd gyda y Methodistiald Calfinaidddd, a gellir ei ystyried yn un o ffyddloniaid yr achos goreu. Byddal bob amser yr un fath, heb fod yn oriog ac anwadal. Ni adwaai ddim a fedral ef wneyd heb ei wneyd. Cafodd ei amddifadu o'i olygon yn mlynyddoedd olaf ei fywyd, fel nad allai fynychu moddion gras, na'i mwynhau i'r graddau yr arferai; ond drwy yr holl amser annyddanus hwnw, yr oedd pethau crefydd iddo yr hyn oedd helwriaeth Jacob i Isaac pan yn yr un sefyllta ag ef, yn felusfwyd o'r fath a garai.
Bu ei farwolaevh mor sydyn fel na chafodd gyfleuatra i adael tystiolaeth yn ei fynydau olaf o ddiogelwch ei gyflwr; ond yn lle hyny gadawodd gadwen o fywyd crefyddol cyson a difwlch yn dystiolaeth ar ei ôl, ac mae hono yn well genym. Gadawodd ddau o feibion i alaru ar ei ôl - un yn amaethwr cyfrifol yn Plainfield, a'r llall yn fasnachwr llwyddianus yn Waterville.
Cafodd gladdedigaeth barchus. Claddwyd ef yn mynwent Unadilla Forks, pryd y gweinyddwyd gan Elder Worden yn Saesaeg, a'r ysgrifenydd yn Gymraeg.
H. R. WILLIAMS.