MR. WILLIAM ROWLAND WILLIAMS, POULTNEY, VERMONT.

Born in Carnarvon, Wales, in the year 1822; and emigrated to the United States in 1842.

He married Miss Anna Rees of New York City in 1849. They have had seven children : Theodore, born, March 25th, 1851; married, June 2nd 1874, has one child (Oriola), and is now one of the editors of the Troy Press; Caradoc, born, June 2nd, 1851 and died, February 2nd, 1853; Emrys, born, December 19th, 1853, now a law student at Poultney; Emily, born, November 11th, 1855; Victoria, born September 20th, 1857; Jennie, born, August 5th, 1859 and died, August 6th, 1859; Elizabeth, born, November 11th, 1860. William R. and John R. Williams came to Poultney in 1866, and have since that time been in the business of Quarrying and manufacturing slate. They are of the firm of Williams Brother and Co., and do an extensive business in the quarrying of slate, and manufacturing the same at their slate mill in Poultney.

A History of the Town of Poultney, Vermont.


MR. WILLIAM ROWLAND WILLIAMS, POULTNEY, VERMONT.

Gwelwn yn y Poultney Journal am Ebrill 27, 1883, y nodiadau canlynol, a hyn yw yr oll a glywsom am farwolaeth ein hen gyfaill mwyn a charedig, y diweddar William Rowland Williams, a anwyd yng Nghaernarfon, Cymru, Tachwedd 23ain 1822.

Daeth i'r wlad hon yn 1842, ac arhosodd am dymor yn Pennsylvania. Bu yn byw wedi hyny yn New Jersey. Ac yn 1849, cyflogwyd ef i arolygu chwarel Whitlock, yn Hydeville, Vermont. Yn 1851, agorodd Pond Quarry, yn nghymdogaeth Cookville, ger Hydeville, Vermont. Wedi hyny bu yn gweithio chwarel yn Wells. Ac yn 1853, symudodd i Middle Granville, lle yr agorodd y chwarel gyntaf yn y parth hwnw.

Yn 1863 gadawodd Middle Granville am ganolbarth New York, lle y bu yn cario yn mlaen y gwaith o doi a llechi. Yn 1866, dychwelodd i Vermont, a phrynodd dyddyn yn South Poultney, ar yr hon, wedi hyny, y bu yn byw hyd ei farwolaeth.

Yn y gymdogaeth hono, gyda'i frawd John R. Williams, agorodd amryw chwarelau, ac yn 1872 adeiladodd y felin lechau, yr hon a losgwyd y mis diweddaf.

Efe oedd y pioneer yn y gwaith llechau yn y parthau hyn. Yr oedd yn ddyn o farn dda, yn nghydag egwyddorion rhagorol. Ac y mae y parth hwn o'r wlad yn ddyledus iddo, heb amheuaeth, yn fwy nac i un dyn arall, am ddarganfyddiad a llwyddiant y gwaith llechi, yr hwn yn awr sydd yn brif waith swyddi Washington a Rutland.

Bu ei holl fywyd yn anrhydeddus, ei holl weithredoedd oeddynt uniawn, ac yn eiddo Cristion gwirioneddol. Yr oedd yn aelod cyson o'r eglwyd Gynulleidfaol Gymreig, os yn byw lle yr oedd un; a lle nad oedd un, ymunai yn fuan gyda rhyw enwad arall a fyddai yn gyfleus. Yr oedd hefyd yn aelod o urdd y Seiri Rhyddion, y rhai ar ddydd Llun, yr wythnos hon, a ddifrifol gyflawnasant y gwasaneth olaf, as a roesant ei weddillion i orwedd yn ein mynwent brydferth, yno i aros ewyllys pellach ei Feistr.

Yr oedd Mr. Williams wedi bod yn dal y swydd o ddetholwr, a bu yn ustus heddwch am amryw flynyddoedd.

Priododd Ann, merch y diweddar Barch. Edward Rees, yn 1849, ac y mae hi, gyda phump o blant, yn ei oroesi.

Yr oedd bywyd Mr. Williams drwyddo yn esiampl ragorol i eraill i'w ddilyn. Nid oedd y gynulleidfa anarferol o luosog a ddaeth i'w gladdedigaeth yn tystio ond i radd fechan y parch mawr oedd iddo yn Poultney, yn gystal ag yn nghymdogaeth cylchynol Fairhaven, Castleton, Pawlett Hampton a Granville.

Y Cenhadwr Americanaidd - Medi 1883.


The Great Vermont Welsh Slate Magnates.

William Rowland Williams (1821-83)

Born in Caernarfon he immigrated to Vermont in 1842.

It was commonly held that anyone could find slate in the area of Castleton, Poultney and Fair Haven, but that the challenge was to discover the best slate. W.R. Williams had this gift it appears as far as Rutland County was concerned.

In 1849 he was superintending the Whitlock quarry, assisted by Edward Morris It is claimed that both they were the first immigrants from Wales to settle there.

By 1850, he, his brother John and John Humphrey, another partner had opened the first slate quarry there. Three years later W.R. Williams had opened the Green Mountain Quarry to the south of Poultney. By then, W.R. Williams was living at Middle Granville.

Four years later an inter denominational Welsh chapel was founded in which he was involved.

Gwefan www.llechicymru.info Website.