CAPT. OWEN W. DAVIES. RACINE, WISCONSIN.
Medi 4ydd, 1884, yn Racine, Wisconsin, Capt. Owen W. Davies, o glefyd y galon, yn 71 mlwydd oed. Ganwyd a magwyd ef mewn ffermdy o'r enw Ceilwart-isaf, ger Abermaw, Meirionydd, Gogledd Cymru.Aeth i ddylyn y mor yn ieuanc, fel y nifer luosocaf o frodorion ei ardal enedigol, ac yn mhen amser daeth i fod yn llywydd llong ei hunan. Dylynodd forwriaeth nes y daeth i America yn 1854.
Preswylia yn Nghaernarfon yn yr Hen Wlad, ac yn Racine y treuliodd y rhan fwyaf o'i amser yn y wlad hon. Dylynodd yr un alwedigaeth ar ôl dyfod yma, ac yn lled fuan daeth i fod yn llywydd y barque America, un o'r llongau mwyaf ar y llynau y pryd hwnw. Er's rhai blynyddoedd yr oedd wedi rhoddi morwriaeth heibio, ac wedi bod yn ngwasanaeth y ddinas fel bridge tender.
Yr oedd wedi priodi yn Nghymru gyda Gwen Evans, merch i'r diweddar Humphrey Evans, y pryd hwnw o Cae'rffynon, ger Harlech, ond yn ddylynol o'r ddinas hon. Y mae wedi gadael i alaru ar ei ôl ei weddw a chwech o blant, set Owen a Humphrey yn Chicago, William yn St. Paul, Mary yn Randolph, Wisconsin, Dora yn Winona, a Winnie, yr ieuengaf, gartref gyda'i mam.
Daetbant oll i'w angladd oddieithr Dora, yr hon a gafodd ei lluddias gan afiechyd yn ei theulu. Yr oedd Capt. Davies yn un o'r cymeriadau mwyaf dymunol. Gellir dweyd yn ddibetrus am dano nad oedd ganddo elyn ar wyneb y ddaear; ac yr oedd pawb ag oedd yn ei adnabod yn ei garu yn fawr - yr oedd rhyw dynerweh ac addfwynder yn ei nodweddu y tu hwnt i'r cyffredin.
Bu yn proffesu crefydd mewn undeb a'r T. C. am y pymtheg mlynedd diweddaf o'i oes; ae fel y cyfryw yr oedd yn berffaith gydymffurfio a chyngor yr Apostol Pedr, sef fod "Cuddiedig ddyn y galon, mewn anllygredigaeth ysbryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd ger bron Duw yn werthfawr." Nid oedd yr amheuaeth letaf yn mysg ei gydnabod nad oedd yn "Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oedd dwyll."
Yr oedd clefyd y galon wedi bod yn ei boeni er's rhai blynyddoedd; ac yn ddiweddar yr oedd wedi cael stroke o'r apoplexy, yr hyn a'i hanalluogodd i siarad am rai wythnosau cyn ei farwolaeth.
Claddwyd ef Medi 6ed, o addoldy y T. C., y Parchn. Joseph Roberts a John P. Williams yn gweinyddu.
"Mynediad helaeth iawn a ga'dd,
I'r porthladd fu'n ddymuno:
Bydd ar y lan a'i wedd yn llon,
Pan welo ninau'n glanio.
Ei gorff yn barchus yn y bedd,
I orwedd ca'dd ei osod;
O holl beryglon mor a thir,
Cyrhaeddodd 'n awr i'r cysgod."
T. LL. W.