MR. GRIFFITH ELLIS. WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.

Tachwedd 22ain, 1884, yn West Bangor, Pennsylvania, trwy ergyd o'r parlys, Griffith Ellis, yn 72 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn Bryniau Llandegai, Arfon, Gogledd Cymru. Bu am dymor yn derbyn addysg yn Lerpwl. Ar ei ddychweliad gartref ymbriododd ag Ann, merch Moel y ci, Llandegai. Ganwyd pedwar o feibion a phump o ferched. Rhagflaenodd John a Griffith eu tad ychydig flynyddau yn ôl.

Ymfudodd yr ymadawedlg i'r wlad hon yn 1849, gan ymsefydlu yn West Bangor. Dylynwyd ef gan ei deulu yn mhen y flwyddyn, a buont byw yn yr un tŷ am dros 34 o flynyddau. Llanwodd y swydd o Ynad Heddwch am wyth mlynedd, a'r enw wrth yr hwn yr adnabyddid ef oreu byth er hyny oedd "Squire Ellis." Adnabyddid of fel llenor a bardd yn "Gutyn Ogwen." Yr oedd yn fardd a llenor lled dda. Cafodd y fraint o fod yn un o ddisgyblion Huw Tegai.

Pe meddal fwy o ysbryd y V (sydd yn anlwyo rhai pobl) nid oes dadl na buasai ei euw yn fwy adnabyddus yn mysg meib awen a llenyddiaeth. Fel tad a phriod yr oedd yn dyner a gofalus; yr oedd yn gymydog tawel, ac unwaith yr enillid ei ymddiriedaeth gellid ei gyfrif yn gyfaill cywir. Prydnawn Sul, y 23ain, daeth tyrfa luosog o Gymry ac Americaniald i ddangos eu parch iddo a'u cydymdeimlad a'i weddw a'i phlant trwy ei hebrwng at ochr ei dalentog a'i hoffus fab Griffith, a orweddai yn mynwent Slateville.

Gwasanaethwyd ar yr amgylchiad gan y Parchn. E. J. Hughes (M. C.) a J. Cadwaladr, Columbus, Ohio, yr hwn oedd ar ymweliad ag eglwys A. y lle. Bydded i Dad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon ofalu am a chysuro y weddw oedranus, ac yn arweinydd i feddwl a chalonau y rhai amddifaid.

Y Drych ~ Rhagfyr 25ain 1884.