MRS. DOROTHY EVANS. MARCY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Chwefror 19eg, 1884, yn Marcy, Sir Oneida, New York, Mrs. Dorothy Evans, anwyl briod Mr. John H. Evans, yn 70 mlwydd, a 10 mis oed.

Merch ydoedd i Owen Jones, Lon Las, Llangybi, Caernarfon, Gogledd Cymru. Ymfudodd gyda'i phriod a'r teulu i'r wlad hon yn 1852, gan ymsefydlu yn y lle uchod.

Yr oedd yn cael ei blino y blynyddoedd diweddaf gan glefyd y galon, a dywedai wrth ei phriod yn fynych y byddai ei hymadawiad yn ddisymwth; felly y bu. Cafodd hi yn gorwedd yn farw ar yr esmwyth fainc. Tybiai ar y cyntaf mai cysgu yr oedd, ond deallodd yn fuan fod yr ysbryd wedi dychwelyd at Dduw, yr hwn a'i rhoes ef. Yr oedd wedi ei gadael tuag awr yn flaenorol gyda'i gwaith, yn gefnog ac yn ei hiechyd arferol. Gofidiai yn fawr nad oedd gyda hi yn ei mynydau olaf.

Ond er iddi farw yn unig, heb gâr na chyfail i weini arni, diameu genym ei bod wedi cael cwmni yr Iesu yn y glyn tywyll, a'i bod wedi mynd trwodd yn ddiogei, a chael croesawiad i mewn i lawenydd ei Harglwydd.

Ymunodd Mrs. Evans ag eglwys y T. C., yn Marcy, tua 18 mlynedd yn ôl, a bu yn aelod ffyddlIon, diwyd a heddychol hyd y diwedd. Ergyd drom i Mr. Evans oedd colli priod hoff a gofalus, a chafwyd prawf amlwg fod ei gyfeillion a'i gydnabod yn cydymdeimlo ag ef yn yr angladd lluosog ar yr 22ain, pryd yr hebryngwyd gweddillion yr ymadawedig i fynwent Bethania i orphwys yn dawel hyd ddydd mawr yr adgyfodiad cyffredinol.

Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parchn, William D. Williams a Richard Isaac.

Gadawodd briod a saith o blant, a lluaws o berthynasau a chyfeillion i alaru ar ei hol.
R. C. ROBERTS.

Y Drych ~ Mawrth 13eg 1884.