MR. JOHN G. EVANS. KNOXVILLE, TENNESSEE.
Awst 3ydd, 1884, John G. Evans, Knoxville, Tennessee, o'r diffyg anadl. Ganwyd ef yn Maesllyn, ger Llanahangel-y-Pennant Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, Chwefror 11eg, 1820.Symudodd oddiyno yn 1826, i ffermdy o'r enw Hendre, Abergynolwyn. Tua phum' mlynedd wedi hyny symudodd i ffermdy arall yn yr un gymydogaeth, o'r enw Bryn-yr-eglwys. Tua'r flwyddyn 1832, aeth i wasanaethu i'r Morfa, ffermdy, ger Towyn, Meirionydd. Yn mhen tua blwyddyn aeth i fugeilio i Dinas Mawddwy. Wedi bod yno am dymor symudodd i Merthyr Tydvil Sir Forganwg, De Cymru.
Ymfudodd ef ac Evan Evans ei frawd i America yn y flwyddyn 1842; a sefydlasant yn agos i Utica, Oneida County, New York. Y mae Evan Evans yn parhau i fyw ger Bridgewater, Oneida County, New York. Y mae iddo frawd arall o'r enw Lewis Evans yn byw yn Forest Lake, Susquehanna, County, Pennsylvania; a brawd arall, Hugh Evans, yn byw yn Knoxville, Tennessee. Symudodd John Evans o New York i Pennsylvania 1843. Bu am beth amser yn Pottsville, ac yn y Meadows; ac yn 1844, symudodd i Danville, Pennsylvania. Yn 1846, ymunodd mewn glan briodas â Mary Lewis, merch David a Joan neu Juggy Lewis, fel yr adnabyddid hi yn gyffredin. Symudodd ef a'i deulu yn nechreu 1868, i Coal Creek, Tennessee; ac yn 1877, i Knoxville.
Bu iddynt 11 o blant. Claddasant 4 yn Danville, Pennsylvania. Y mae 7 yn fyw, pedwar mab a thair merch; y mae James a Tommy yn Butte City, Montana. Ymunodd John Evans ag eglwys Annibynol Daneville, Pennsylvania, Hydref, 1847, dan argyhoeddiad Dr. Everett, yr hwn oedd ar ymweliad a Pennsylvania ar y pryd. Parhaodd yn ffyddlon gydag achos Duw hyd angeu. Yr oedd yn ddyn cywir mewn masnach, yn briod ffyddlon, ac yn dad tyner. Bu yn ffyddlon yn moddion gras, ac yn gyfranwr cyson at achos y Gwaredwr hyd y diwedd.
Claddwyd ef yn barchus yn nghladdfa Knoxville, Awst 5ed, 1884. Gweinyddwyd yn ei angladd yn y tŷ gan y Parchn. R. D. Thomas (Iorthryn Gwynedd) a D. Dyfri Davies, ac ar lan y bedd gan yr Oddfellows. Canwyd dwy dôn Gymraeg ar lan y bedd. Bu farw mewn ffydd, a'i bwys ar fynwes Iesu. Heddwch i'w lwch hyd foreu yr adgyfodiad, pan y cyfyd ei gorff i ail uno a'i ysbryd yn oes oesoedd. Bydded i Dduw fod yn Dad i'r amddifaid, ac yn Farnwr i'r weddw hyd ddiwedd eu hoes; ac yna cymered hwynt i ogoniant.