MRS. LAURA ROBERTS EVANS, SLATINGTON, PENNSYLVANIA.

Ionawr, 25ain, 1884. yn Slatington, Pennsylvania, Laura Evans, yn 22 mlwydd oed.

Merch ydoedd i Joseph ac Elizabeth Roberts, diweddar o Bryn Teg, Bethesda, Arfon, ond â ymfudasent i'r ardal hon tua dwy flynedd yn ôl.

Yr oedd yn briod gydag un William Evans, yr hwn a ddaethai i'r wlad hon ychydig o'i biaen. Daeth hithau yma gyda ei rhieni yn llawn awydd am ei weled ar ei glaniad; ond ni chyfarfuasant a'u gilydd o gwbl yn y wlad, a pharodd hyny ofid dwys iddi yn ddiameu. Ond yr oedd yn un o'r ychydig na fynant i'w gofid hwy fod yn flinder i eraill, felly ceisiai ymddangos yn siriol a hynaws, er ar yr un pryd yn suddo dan bwys ei thrallodion. Adfeiliai ei hiechyd er's cryn amser, ond bu farw yn sydyn iawn. Boreu y dydd y bu farw, cychwynodd o'r tŷ gyda ei hewythr, Jesse Roberts, gan fwriadu ymweled a'i pherthynasau yn New York, a dysgwylid y buasai hyny yn adgyfnerthiad iddi. Ond tra ar yr heol cyn ymadael o Slatington, cymerwyd hi yn glaf iawn.

Gan fod tŷ Mrs. J. L. Jones yn agos, aethpwyd â hi yno, lle derbyniodd bob caredigrwvdd, ac y gweinyddwyd arni gan feddygon y dref; ond er y cyfan bu farw yn mhen oddeutu dwy awr wedi cychwyn oddicartref.

Yr oedd yn aelod gyda'r M. C., ac yn un a fawr hoffid gan ei chydnabod. Claddwyd hi gan dyrfa luosog y dydd Mawrth canlynol, yn mynwent Wiliiamstown. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parch. Ellis Walter Jones, Bangor, Pennsylvania. Cydymdeimlir yn ddwys a'i rhieni a'i chwaer yn eu trallod. Mae brawi iddi yn Patagonia, o'r enw William. J. Roberts, teiliwr wrth ei alwedigaeth. Di-ameu y teimla yn ddwys pan gyrhaedda y newydd ef. Bvddai ei ddyckweliad ef yn gymorth i'w rieni ymgynal dan y brofedigaeth. Dymunir i Lais y Wlad gyhoeddi yr uchod.
JOHN. W. MORRIS.

Y Drych ~ Chwefror 28ain 1884.