MRS. MAGGIE EVANS, GRANVILLE, NEW YORK.
Ionawr 4ydd, 1884, yn Granville, New York, Mrs. Maggie Evans, hoffus briod Mr. Evan D. Evans, yn 34 mlwydd oed, wedi oddeutu pedwar diwrnod o gystudd, gan yr afiechyd a elwir inflammation of the bowels.Merch ydoedd i Mr. John J. Pritchard a'i briod Mary, gynt o Braichmelyn, Bethesda, Arfon. Mae ei mam yn ferch i Owen Jones, Tyddynwisgi, Llanwyndaf. ger Caernarfon. Mae gŵr yr ymadawedig yn fab i Daniel Evans, Bontuchaf, Bethesda, Arfon. Hoffid. Mrs. Evans yn fawr ar gyfrif ei rhinweddau, a pherchid hi gan bawb fel cymydoges dawel a serchog.
Cydymdeimlir a'i mam a'i phriod yn eu profedigaeth chwerw.
Claddwyd hi dydd Sabboth y 6ed o'r mis hwn, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. D. O. Owens yn y tŷ, yn y capel ac yn nghladdfa Middle Granville. Heddwch i'w llwch. Cafodd angladd anrhydeddus.