MRS. MARY EVANS. SHENANDOAH, PENNSYLVANIA.

Gorphenaf 20fed, 1884, yn Shenandoah, Pennsylvania, Mrs. Mary Evans, priod John H. Evans.

Ganwyd hi yn Bangor, Gogled Cymru, Gorphenaf 20fed, 1833, felly yn 51 mlwydd oed ar ddydd ei marwolaeth.

Claddwyd hi yn barchus iawn yn mynwent yr Odyddion ddydd Mawrth, Gorphenaf 22ain. Bu yn nychu am yn agos i flwyddyn a haner. Ei hafiechyd ydoedd y bronchitis.

Fel cymydoges, yr oedd yn hynod garedig - y gyntaf bob amser i weini mewn achos o afiechyd mewn teulu cymydogol, neu i roddi unrhyw gynorthwy mewn pob ffordd ag y gallasai. Perchid hi fel y cyfryw gan yr ardal.

Yr oedd yn ymwybodol er's llawer o amser nad oedd gwellhad iddi, ac yr ydoedd wedi rhagdrefnu pob peth ar gyfer ei marwolaeth, ac wedi cyfarwyddo y plant a'i phriod mewn pethau perthynol i'r tŷ a'r teulu am fisoedd i ddyfod. Gadawodd briod a saith o blant i alaru eu colled ar ei hol. Gwariodd ei phriod lawer o arian er ei gwella, a chafodd bob tynerwch ag y gallasai ef, y plant a'r cymydogion ei ddangos iddi.

Yr oedd yn aelod o eglwys yr Annibynwyr, a phriodol iawn y gellir dweyd am dani, "Wele, hi a drefnodd ei thy." Heddwch i'w llwch.

Y Drych ~ Awst 21ain 1884.