MR. CADWALADER JONES. BLACKSTONE, ILLINOIS.
Hydref 30ain, 1884, yn Blackstone, Illinois, Cadwalader Jones, yn 79 mlwydd oed.Genedigol oedd o Sir Gaernarfon. Ni chafodd ond byr gystudd. Bu farw yn gadarn mewn ffydd, gan bwyso ar ei Waredwr.
Y dydd Sadwrn canlynol daeth tyrfa fawr i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref, a gweinyddwyd ar yr achlysur yu Gymraeg a Saesneg gan yr ysgrifenydd. Heddwch i'w lwch hyd foreu mawr y codi.
MAWDDWY MEIRION.