MRS. ELIZABETH JONES. POULTNEY, VERMONT.
Awst 2ail, 1884, yn Poultney, Vermont, yn 32 mlwydd oed, Mrs. Elizabeth Jones, anwyl briod Mr. Richard W. Jones, gynt o Ebenezer, Llandinorwig, Arvon.Ymfudasant i'r wlad hon yn Mehefin, 1883. Ni bu ei chystudd ond byr. Rhoddodd enedigaeth i un bychan Gorphenaf 23ain, a dechreuodd wella yn raddol hyd y 29ain, pryd ei cymerwyd gan y puerperal fever, ac o'r adeg hon hyd boreu Sadwrn bu mewn poenau dirdynol, pryd y rhoddodd angeu derfyn ar ei holl ofidiau. Yr oedd yn aelod ffyddlon a dichlynaidd gyda y M. C. yn Wells Pond, a gadawodd dystiolaeth eglur ei bod yn myned i wlad well.
Prydnawn Sabboth, y 3ydd, ymgynullodd tyrfa luosog i hebrwng ei gweddillion marwol i fynwent Poultney.
Bedyddiwyd y baban cyn dechreu y gwasanaeth yn y tŷ. Yr oedd yr amgylchlad yn un gwir bruddaidd. Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon fyddo yn amddiffyn i'w phriod hoff a'i ddau blentyn bach yn eu # trallod blin. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. David O'Brien Owen, Middle Granville.