MISS ELIZABETH JONES, UTICA, NEW YORK.

Ionawr 21ain, 1884, yn Utica. New York, o'r darfodedigaeth, yn 23 mlwydd, 5 mis a 11 diwrnod oed Miss Elizabeth Jones, unig ferch Henry O. ac Elizabeth Jones, 97 Liberty Street.

Bu Miss Jones yn nychu am ddwy flynedd. a dyoddefodd yn dawel a dirwgnach.

Ymfudodd i'r wlad hon yn Mai, 1883 o Dowyn, Meirionydd, Gogledd Cymru, gan hyderu y byddai y cyfnewidiad o les i'w hiechyd; ond er y cyfan, profodd ei hafiechyd yn angeuol. Yr oedd Miss Jones wedi dyoddef cymaint fel yr oedd yn ewyllysio cael marw yn hytrach na byw: a chredwn ei bod yn hollol barod.

Yr oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr, ac yr oedd yn dda gan bawb amdani.

Dydd Mercher, y 3ydd, ymgynullodd tyfa luosog i'r capel i dalu y gymwynas olaf iddi, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Rees Gwesyn Jones. D. D.

Claddwyd hi yn y Forest Hill Cemetery. Gadawodd Miss Jones rieni tyner a saith o frodyr (un o'r rhai sydd yn Nghymru) i alaru ar ei hol.

Y Drych ~ Chwefror 7fed 1884.