MRS. ELIZABETH JONES. SOUTH BANGOR, VIRGINIA.

Ebrill 14eg, 1884, yn South Bangor, Virginia, yn 29 oed, Mrs. Elizabeth Jones, anwyl briod William Jones, ar ôl naw diwrnod o gystudd blin dan y pneumonia.

Merch ydoedd i William Hughes, Chwarel Goch. Dinorwig, Gogledd Cymru. Mae yr ardal fechan yma ar y cyfan yn lled ddison amdani - ein nifer yn ychydig, a dygwyddiadau o'r fath yn anaml yn ein plith, fel pan y del, yr ydym yn cael ein tarw feallai gan fwy o syndod, nag ardaloedd mwy poblogaidd, lle mae marwolaetbau yn amlach.

Gadawodd yr ymadawedig chwech o blant, yr hynaf ddim ond naw oed, a'r ieuangaf ond saith mis, heb neb i ofalu am danynt ond eu tad trallodus. Nis gallwn feddwl am achos mwy torcalonus; ac yr oedd yr olygfa arnynt yn llaw eu tad, yn claddu eu mam, yn rhwygo y teimladau mwyaf celyd.

Mae yn ymddangos i ni fod rhyw allu tu hwnt i'r un dynol yn cynal y taid, a'r priod trallodedig hwn, o dan bwysau profedigaeth mor angerddol.

Y Drych ~ Mai 1af 1884.