MRS. ELIZABETH JONES. GOMER, RED OAK, IOWA.

Ebrill 24ain, 1884, yn ardal Gomer, ger Red Oak, Iowa, Elizabeth, anwyl briod y Parch. Samuel Jones, yn 57 mlwydd oed, ar ôl nychu am wythnonau o dan effaith anwyd trwm.

Ychydig o ddyddiau cyn ei marwolaeth, tybid ei bod yn gwella, ond yn ddisymwyth ail ymaflodd yr afiechyd ynddi, a bu yn drech na phob gallu meddygol.

Gadawodd briod a thri o blant mewn galar dwys ar ei hol. Symudodd y teulu i'r wlad hon o ardal Bethesda, Arfon, tua 20 mlynedd yn ôl, Mr. Jones yn dod i gymeryd gofal gweinidogaethol eglwys Annibynol Middle Granville, New York, lle y treuliasant tua phum mlynedd. Oddiyno symudasant i ardal Long Creek, Iowa, a thua deg mlynedd yn ôl i'r ardal hon.

Dranoeth i ddydd ei marwolaeth ymgasglodd torf luosog iawn i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref yn Lincoln Cemetrry, sef claddfa y Cymry yn yr ardal hon.

Gweinyddwyd yn y tŷ gan y Parch. O. Owens, ac yn y capel. Dechreuwyd gan y Parch. J. E. Jones, a phregethwyd pregeth bwrpasol iawn gan y Parch. O. Owens. Yr oedd y dagrau gloewon a dreiglent dros ddegau o ruddiau ar ddydd ei hangladd yn siarad mwy nag a all ei ddweyd gyda phen ac inc am ei rhinweuddau.
W. H. JONES.

Y Drych ~ Mai 15fed 1884.