MR. EVAN J JONES. CHEYENNE, WYOMING.
Awst 4ydd, 1884, yn Cheyenne, Wyoming, yn 35 mlwydd oed, Evan J. Jones, o waedlif yr ysgyfaint.Yr oedd yn enedigoi o ger Dolgellau, Sir Feirionydd - mab Griffith Jones, Ysgeiriaeth. Gadawodd wraig a thri o blant bychain i alaru ar ei ôl. Nid oedd wedi cael ei gyfyngu i'w wely o gwbl; ond yr oedd yn bur wael er ys amryw fisoedd, er yn dal ati i weithio diwrnod yn awr ac yn y man. Yr oedd yn ymddangos fod yr hen elyn, y darfodedigaeth, wedi ymaflyd yn ei gyfansoddiad er ys chwe' neu saith mlynedd. Gweithiodd y diwrnod y bu farw. Daeth adref yn yr hwyr gan ddweyd ei fod yn teimlo yn well nag arfer. Aeth i'w weiy, ac ar ôl gorwedd am ychydig, cafodd beswch gwir galed, a thorodd y gwaed yn yr ysgyfaint. Cyfododd o'i wely, gan ddweyd wrth ei wraig am alw Mr. Lewis, yr hwn oedd yn byw mewn rhan o'r tŷ. Cytudodd Mr. Lewis, a chymerodd ef i'r gadair, yn yr hon y bu farw mewn oddeutu haner awr. Y geiriau diweddaf a glywyd ganddo oedd, "O Iesu mawr achub fi."
Daeth Mr. Jones a'i briod i'r wlad hon yn 1872. Ymsefydlasant yn Vermont; a chan mai chwarelwr oedd Mr. Jones wrth ei gelfyddyd, bu yn gweithio mewn chwarel lechi yno am chwe' blynedd. Symudodd i'r lle hwn yn 1878, er mwyn ei iechyd. Yr oedd yn ddyn gonest a charedig iawn bob amser, a gwnaeth lawer o gyfeillion iddo ei hun tra y bu yma.
Yr oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr er yn fachgen ieuanc. Awst 5ed awd a'i weddillion i'w claddu i'r Cemetery, perthynol i'r dref, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Mr. Saunders, gweinidog yr eglwys y perthynai Mr. Jones iddi. Hyderwn fod ei enaid wedi dianc i'r wlad sydd well, lle nad oes gofid na phoen byth. Tad yr amddifaid a barnwr y gweddwon fyddo yn llawn yn ei addewid i'w briod a'i phlant bach, y rhai sydd yn galaru ar ei ôl.
R. T. WILLIAMS.