MR. EVAN J. JONES. BETHANIA, MARCY, ONEIDA CO, NEW YORK.
Tarawyd yr ardaloedd oddiamgylch Utica a syndod mawr ar y cyntaf cyfisol, gan y newydd fod Evan J. Jones, ffarmwr adnabyddus yn Marcy, New York, wedi marw, ar ôl llai na thair awr o salwch. Yr oedd Mr. Jones ar y ffordd gyda'i fab yn gyru anifeiliaid; ac ar unwaith deallodd y mab oddiwrth edrychiad ei dad fod rhyw wasgfa arno. Cymerodd ef i gerbyd, ac aed adref yn ddi-oed; ond cyn pen teirawr yr oedd Mr. Jones yn mreichiau oerion angeu. Ni fu yn alluog i lefaru gair ar ôl cael ei daraw.Cafodd angladd lluosog a pharchus ar y 3ydd cyfisol, pryd y gweinyddodd y Parch. J. R. Griffiths, Floyd. Gadawodd Mr. Jones weddw a naw o blant, a chladdasant dri. Yr oedd yn ddyn parchus iawn yn ei ardal.
Daeth i'r wlad hon uwchlaw deugain mlynedd yn ôl, o Hendre, Cwmcenydd, Dinas-mawddwy Meirionydd; ac ar adeg ei farwolaeth yr oedd yn 67 mlwydd oed. Bu yn ddiacon am 30 o flynyddoedd gyda'r Annibynwyr yn Bethania.