MR. GRIFFITH R. JONES. BANGOR, PENNSYLVANIA.
Hydref 30ain, 1884, yn Bangor, Pennsylvania, Griffith R. Jones, yn wyth a deugain mlwydd oed. Cafodd anwyd trwm dros flwvddyn yn ôl, a throdd yn ddarfodedigaeth arno. Er ei fod yn ddyddiol ddihoeni a gwanychu, mynai i eraill gredu y byddai yn fuan yn iach. Soniai am wella a byw hyd ei oriau diweddaf.Dydd Sadwrn, Tachwedd laf, cludwyd ei weddillion i Slatington, i eglwys newydd yr Annibynwyr, lle am ddau o'r gloch y cafwyd pregeth ddoeth a galluog gan y Parch. John Williams, Bangor, ar eiriau arwyddocaol y Pregethwr pan y dysga fod "amser i bobpeth ond i fyw." Oddiyma aethpwyd i gladdfa Bellevue, yr hon enw sydd yn hynod briodol ar fan lle y gellir cael golygfa mor brydferth. Wedi canu a gweddio, trodd pawb eu cefnau a gadawyd gweddillion Griffith R. Jones i orwedd yn ei wely pridd yn ddiboen. Cwynai yn ddiweddar, wrth orwedd ar bob gwely, ond dyma wely na theimla un boen wrth orwedd ynddo.
Daeth Mr. Jones i'r wlad hon o ardal Bethesda, Arfon, Gogledd Cymru, tua 30 mlynedd yn ôl. Adnabyddid ei dad wrth yr enw Robert Jones (Robin Wyn), Ty'ntwr. Bu Griffith yn byw ac yn gweithio er pan ddaeth yma yn Swyddi Lehigh a Northampton, Pennsylvania, a Swydd Sussex, New. Jersey. Yr ydoedd yn weithiwr da, yn ddyn tawel, heddychlawn, yn gyfaill cywir, ac yn un na wnaeth niwed i neb ond efe ei hunan. Yr ydoedd iddo luoedd o gyfeillion, fel y profwyd yn mhoblogrwydd ei angladd ar rybydd byr iawn yn Slatington, lle na bu yn byw er's blynyddoedd.
Wrth ganu hen emyn swynol ar lan y bedd, ac wrth adgoffa aml i awr dreuliwyd yn nghwmni yr ymadawedig - gwelid aml i lygad yn gloewi a'r dagrau yn llenwi ynddo, ac yr ydoedd troi o'r fynwent gyda theimladau dwysion a chalonau pruddaidd yn beth pur naturiol; ond gorphwysa ef yn dawel yn awr wedi ei ryddhau oddiwrth ei holl boenau.