MRS. JANE JONES. MANKATO, MINNESOTA.
Medi 5ed, 1884, yn Mankato, Minnesota, Mrs. Jane Jones, priod Mr. Thomas O. Jones, yn 42 mlwydd, 8 mis a 15 diwrnod oed.Ganwyd hi yn ymyl Ffestiniog, Gogledd Cymru, Rhagfyr 20fed, 1842. Bu ei rhieni, William a Margaret Evans, yn byw am beth amser wedi hyny yn Beddgelert. Oddiyno ymfudodd y teulu i Calamas, Swydd Dodge, Wisconsin, pan yr oedd hi yn 4 oed.
Ymunodd â chrefydd pan yn 14 mlwydd oed.
Yn 1864 ymbriododd â Thomas O. Jones, o'r un sir, a buont yn byw yno ar eu fferm am bedair blynedd. Tra yno ganwyd plentyn iddynt, yr hwn a fu farw ar ei enedigaeth. Yn 1868 symudasant i Minnesota, a sefydlasant ar fferm yn Judson, Blue Earth Co., lle yr arosasant hyd y gwanwyn, 1875. Symudasant drachefn i Mankato i fyw, gan fod Mrs. Jones yn analluog i gyflawni ei gorchwylion o herwydd y ddarfodedigaeth. Bu yn nychu yno am naw mlynedd. Cafodd bob gofal a charedigrwydd gan ei hoffus briod yn el chystudd.
Yr oedd yn aelod ffyddlawn o'r eglwys Gymreig yn Mankato, a chymerai ddyddordeb neilliuol yn holl weithrediadau yr achos. Claddwyd ei gweddillion yn mynwent South Bend, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. R. Davies, W. Machno Jones a'r ysgrifenydd.
J. C. JONES.