MRS. JANE (MEREDITH) JONES, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Merch Griffith ac Ellin Meredith, Penllech, Bryncroes. Wedi cael ei bedyddio yn Eglwys y Santes Fair, Bryncroes ar 4/2/1788. Wedi bod am gyfnod yn byw yn Murpoeth, Bryncroes ac wedyn yn Ty'n Maes, Bryncroes.

Ymfudo i America yn 1818 ac yn fuan ar ôl cyrraedd wedi priodi gyda Owen J Jones. Ffermio wedyn yn ardal Pen Mynydd yn Steuben ac yn aelod yn Eglwyg Gynilleidfaol Pen Mynydd.

Owen J Jones wedi marw ar 3ydd Mai, 1874, a Jane Jones wedi marw ar 19eg Gorffenaf, 1884, a'r ddau wedi cael eu claddu ym mynwent Steuben Corner yn Steuben.

Yr oedd brodyr Jane; Griffith Meredith a Meredith Meredith wedi ymfudo gyda Jane.

Glyn Roberts ~ Awst 2021.