MR. JOHN ELLIS JONES. LIME SPRING, IOWA.

Awst 1af, 1884, yn Lime Spring, Iowa, John Ellis Jones, brodor o Moeltryfan, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru., tua 30 mlwydd oed. Treuliodd y rhan fwyaf o'i amser yn Llanfairfechan, Sir Gaernarfon, lle yr ymunodd mewn priodas a'r hon sydd yn weddw alarus ar ei ôl. Ei rieni oeddynt Morris ac Eleanor Jones; y mae ei fam eto yn fyw yn Llanfairfechan gyda dwy chwaer a brawd, ac mae brawd arall yn Caellwyngrydd, ac un arall, William, yn Dakota. Ymunodd yr ymadawedig â chrefydd yn ieuanc yn Llanfairfechan, a daliodd ati hyd y diwedd.

Ymfudodd i'r wlad hon yn 1870. Treuliodd y chwe mlynedd cyntaf yu Chicago, Illinois, a'r gweddlll ger Lime Spring, ar y ffarm lle y bu farw.

Yr hyn fu yn angeu iddo oedd apoplexy of the heart. Yr oedd yn gweithio ar y maes y diwrnod cynt hyd 8 o'r gloch yn yr hwyr. Bwytaodd swper da, ac aeth i'w weiy heb gwyno dim; ond boreu dranoeth, tua 4 o'r gloch, deffrodd a chododd o'i wely. Deffrodd ei briod, ac meddai, "Codwch, yr wyf fi yn myned i'ch gadael y tro hwn, Gelwch Hugh," sef eu mab, fel y galwent ef, er mai nai iddo ydyw Hugh, wedi ei fagu ganddyut o'i febyd. Daeth Hugh ato i'r ystafell, ac yno yr oedd yn gweddio yn daer ar Iesu Grist i'w gymeryd. Pan ddeallodd fod Hugh yna, meddai, "Wel, Hugh bach, dyma fi yn eich gadael y tro hwn; O Iesu mawr, cymer fi," ac yna anadlodd ei olaf yn y fan. Yr oedd wedi cael ymosodiadau tebyg rai troiai o'r blaen - am hyny y dywedai, "Yr wyf yn eich gadael y tro hwn."

Yr oedd yn edrych yn ddyn pur gryf - dyn tawel, boddlawn, hynod o gyfeillgar, sirlol a nodedig o letygar. Nid oedd yn un blaenllaw gyda chrefydd, eto teimlid ei fod yn feddylgar pan yn ei ddosbarth yn yr Ysgol Sul, er yn dra swil i wneyd dim yn gyhoeddus. Mawr hyderwn ei fod wedi dianc gyda ei Farnwr.

Y Sabboth canlynol, Awst 3ydd, ymgasglodd torf fawr i'w hebrwng i gladdfa Foreston, pryd y gweinyddwyd yn y tŷ, y capel ac ar lan y bedd gan y Parchn. Josuah T. Evans, John D. Williams a'r ysgrifenydd. O! mor ansicr yw bywyd dyn - "Nid oes ond megys cam rhyngof fi ac angau." Amddiffyn y nefoedd fydd dros y teulu galarus.
J. W. MORGAN.

Y Drych ~ Medi 4ydd 1884.