EVAN WILLIAMS, CARBONDALE, PENNSYLVANIA.

Ar y 5ed o fis Hydref, bu farw Evan Williams, yn y lle hwn, o'r Dwymyn Geriaidd.

Yr oedd yn fab i Evan a Magdalen Williams, yn awr o blwyf Remsen, Caerefrog-Newydd, ond gynt o ogledd-barth sir Feirionydd, Cymru. Bu y trengedig yn aros yma yn agos i ddwy flynedd. Nid ydytn yn gwybod dim am dano yn flaenorol; ond pan ddaeth yma gyntaf dangosai barch mawr i Dy yr Argìwydd, ei air, ei ordinhadau, a'i bobl; ac nid hir y bu cyn ymuuo ag Egíwys y Trefnyddion Calfinaidd. O hyny allan, yr oedd ei ffyddlondeb yn nodedig, yn nghyd a'i awydd am wybodaeth ysbrydol a chrefyddol; ond tra yr oeddem ni yn dysgwyl yn obeithiol iddo gael hir ddyddiau o lafur a defnyddioldeb gyd ag achos Crist, daeth angau a'i gryman llym, ac a'i symudodd i'r byd mawr tragywyddol.

Cwynai fod ei iechyd yn wanaidd er ys tro, ond ni orfu arno ildio ei waith hyd y 18fed o fis Medi; ac o'r pryd hwnw parhäodd ei gystudd i drymhau nes dattod y ty daearol. Bu yr ysgrifenydd yn gweini arno trwy gydo1 ei gystudd, ac felly cafodd gyfleusdra i ddeall cryn lawer am ansawdd ei feddwl a'i brofiad o bethau ysbrydol. Go dywyll oedd hi ar ei feddwl am ysbaid ar y cyntaf; ond cafodd y fraint o droi i'r pared fel Hezeciah, ac yno 'mewn gweddi, efe a weddiodd' na byddai cwmwl rhyngddo a gwyneb ei Dad nefol mwy a llewyrchodd arno o'r pryd hwnw. Aml í dyiolchai am 'y Brawd a anwyd erbyn caledi,' ac am y 'Bachgen a anwyd i ni,' gan ddyblu ei ddyiolch lawer gwaith am mai i ni yr oedd wedi ei eni.

Sylwais yn neillduol ar hyny, pan y byddai yn fwyaf dyrysedig gan rym ei glefyd, ei fod yn ateb yn synhwyrol rywbeth a ofynid iddo am ei enaid, a byd tragywyddol. Y diwmod olaf y bu byw, mewn atebiad i wraig y ty a minau, dywedai nad oedd arno ddim ofn marw - fod y 'Bachgen a anwyd i ni' yn ddigon iddo yn ngwyneb marw. Ychwanegai na fedrai ddweyd yr hanner yr oedd yn ei fwynhau. Gofynai yn fynych am ei fam, a dymunai arnaf hysbysu iddi, 'ei fod ef wedi gweled digon,' ac 'wedi cael gafael ar ddigon.'

Ychydig cyn marw torodd allan gan ddywedyd, 'Gwaith rhyfedd a wneir ar bechadur - ei wneyd yn aur yma!' (gan gyfeirio a'i law. at ei fynwes) - 'puredd oddifewn — gwreiddyn y mater a gaed ynof!' Yua dyolchai lawer am waith gras yn yr enaid.

O'r diwedd ymddangosai fod ei nerth yn darfod, a dywedai fod yn rhaid iddo dewi. A thewi a wnaeth am byth yr ochr hyn i'r hen afon dónog!

Dranoeth hebryngwyd ei ran farwol i'r bedd, yn cael ei flaenori gan faniar 'Meibion Dirwest,' a gorymdaith o'r Meibion yn canlyn corff eu brawd trengedig.

Llefwch, mynegwch yn iawn,
Cofiwch bydd da i'r cyfiawn.

Owen Evans (Bryn Marcy)
Carbondale, Tachwedd 5ed, 1846.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Rhagfyr 1846.