MRS. GAYNOR R. WILLIAMS, REMSEN, SWYDD ONEIDA, EFROG NEWYDD.
Mrs. Geynor R. Willîams, yr hon a fu farw yn mhlwyf Remsen, swydd Oneida, C. N., foreu y 22ain o Hydref, 1846, yn 53 mlwydd oed. Merch ydoedd Mrs. Williams i Humphrey a Jane WiIIiams, gynt o blwyf Llangwynhoedle, sir Gaernarfon, Cymru. Symudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1819. Ymunasai mewn priodas â Mr. Griffith R. Williams, gynt o blwyf Llanor, sir Gaernarfon, Cymru, yn y flwyddyn 1820. Ymsefydlasant yn fuan ar ôl priodi mewn tyddyn yn Remsen, yn yr ardal lle mae gan y Trefnyddion Calfinaidd gapel a elwir Pen-y-caerau; ac yno y buont yn aros ac yn byw yn gysurus hyd yn bresennol, oddyeithr un flwyddyn y gosodasant eu tyddyn i ereill, o herwydd ei gwaeledd hi. Lled afiach oedd hi y rhan fwyaf o'i hamser. Nos Fercher, yr 2lain o'r mis uchod, elai hi a'i phriod i orphwys fel arferol; ond yn fuan wedi iddynt orwedd, cwynai fod gofid yn ei choes, a chyda bloedd, 'Fy mhen! fy mhen!' a dim un gair mwy ni chlybuwyd ganddi. Yr oedd hyn tua 10 ar gloch: a chafodd ei tharo gan ffit o'r Parlys Mûd, medd y meddyg; a thua 4 o'r gloch boreu ddydd Iau, sef yn mhen tua chwe' awr, bu farw; yna' dychwelodd ei hysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes ef.'Ar y dydd Sadwrn canlynol, sef y 24ain o r mis uchod, ymgynnullodd lluaws mawr o'u cyfeilìion a'u cymydogion, yn nghyda'u brodyr a'u chwiorydd crefyddol, i hebrwng ei rhan ddaearol i dý ei hir gartref. Ar yr achlysur pregethodd y brodyr Thomas T. Evans, oddiwrth Salm xxxix. 12, 'Gwrando fy ngweddi, Arglwydd, a chlywfyllef; na thaw wrthyf wylofain: canys ymdeithydd ydwyf gyda thi, ac alltud fel fy holl dadau;' a Thomas Williams, oddiwrth Dat. x:.v. 13, l Ac mi a glywais lef o'r nef yn dywedyd wrthyf Ysgrifena, gwyn eu byd y meirw y rhai syda yn marw yn yr Arglwydd, o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorphwysont oddiwrth eu llafur, a'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt'
Yna awd a'i chorff i'r fynwent sydd wrth gapel Pen-y-caerau, a rhoddwyd yno i orwedd hyd oni ddisgyno yr Argiwydd ei hun o'r nef gyda bloedd, a llef yr Archangel, ac âg udgorn Duw.
Gadawodd briod, merch a mab, i alaru ac i deimlo eu colled ar eu hol. Yr oedd yn drwm genyf edrych ar ei phriod, Griffith R. Williams, yn gorfod myned adre y tro hwn, a gadael ei anwyl wraig yn y beddrod - nid fel o'r blaen, bob amser yn cydfyned adre o bob cyfarfod; ac hefyd Anne, eu merch, yn myned adre heb ei mam, ac Humphrey yr un modd.
Y mae gweinidogaeth angau yn uchel alw arnom i fod yn barod. Y mae Ilawer o'n cymydogion a'n perthynasau, a'n cydaelodau eglwysig hefyd yn blaenu arnom; a dywedodd ein Harglwydd Iesu Grist yn yr Efengyl 'Gwyliwch gan hyny, am na wyddoch na'r dydd na'r awr y daw Mab y dyn.'
Bu ein chwaer ymadawedig yn aelod o gyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd am tuag 16 o flynyddoedd. Cafodd ei phriod hefyd yr un fraint a hithau, yn mhen tua dwy flynedd ar ei hôl. Yr oedd hyn yn gysur mawr iddi, eu bod yn cael cydfyned ill dau yn nghyd i dŷ Dduw. Yr oedd ei phabell ddaearol yn gwaelu er's blynyddoedd. Dywedai yn lled ddiweddar wrth chwaer grefyddol, ar ôl bod yn dipyn gwaelach nac arferol, ei bod yn teimlo cariad o newydd at yr Arglwydd a'i bobl, yn debyg i fel y dywedodd Ruth wrth Naomi.
Clywais inau hi yn tystio un tro yn y Society, yn lled ddiweddar, nad oedd ganddi ddim gohaith achubiaeth ond yn unig trwy Iesu Grist. Ac yr oedd yn amlwg el bod yn caru y brodyr, fel y' sonia yr Apostol Ioan, nid yn unig ar air, ond mewn gweithredoedd - yn hawdd ganddi roddi a chyfranu, a hyny yn fwy helaeth na chyffredin. Yr oedd hi yn debycach i'r ddysgybles Tabitha na nemawr a adwaenais yn yr oes hon; a dywedodd un wrthyf fod ei hymadawiad yn golled deimladwy i amryw, yn enwedig rhai crefyddol.
Gwyr pawb o honom fod ein gwaeledd gyda ni, felly hithau; ond mae yn hysbys i lawer fod yn Geynor Williams 'beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel.' Ni chafodd hi hamdden na gallu i ymddyddan wrth ymadael. Tarawyd hi môr drwm gan Frenin y dychryniadau, nes aeth ei phabell i lawr gyda dim ond un dyrnod!
Ond yr ydym yn dysgwyl ac yn gobeithio ddarfod iddi gael trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragywyddol, a'i bod heddyw mewn gwlad well, gyda'r teulu lle nad oes na chystudd na galar.
Bydded i ninau oll ystyried y bydd yn rhaid i ni yn fuan rodio llwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelwn, a myned i fyd mawr yr ysbrydoedd; a'n lle yn y teulu, yn y capel, yn yr eglwys, yn yr Ysgol Sabbothol, nid adwaenir mwy.