MR. JOHN J. JONES. COLUMBUS, OHIO.

Mawrth 15fed, 1884, yn Columbus, Ohio, John J. Jones, neu fel yr adnabyddid ef gan y Cymry yn y cylchoedd hyn, "Jones y Baker," yn 51 mlwydd oed, o'r afiechyd twyllodrus a elwir diabetes.

Yr oedd yn enedigol o'r Bala, ac yn fab i hen deulu parchus y Ginshop Bach. Mae iddo frawd yn delynwr enwog yn Llangollen, Daeth i'r wlad hon oddeutu 25 mlynedd yn ôl, ac ymsefydlodd yn y ddinas hon, ac er's amryw flynyddoedd cariai fasnach helaeth yn mlaen fel Pobydd yn benaf.

Yr oedd yn ddyn anturiaethus, ac o dueddfryd gymdeithasgar a charedig. Bu yn hynod lwyddianus yn ei fasnach.

Gadawodd briod a thair o ferchaid bychain i alaru ar ei ôl, ond mewn amgylchiadau cysurus. Buasai ar ymwellad a'r Hen Wiad yr haf diweddaf, a theimlai ei fod wedi cael adnewyddiad oddiwrth y daith; ond pan y meddyliai ef a'i gyfeillion ei fod yn gwella yn gyflym, cymerwyd ef yn glaf iawn yn sydyn, a bu farw.

Buasai yn aelod crefyddol o eglwys Town Street am lawer o flynyddoedd; ond yr oedd wedi aelodi ei hunan yn y blynyddoedd diweddaf gyda'r M. C. ar Long St.

Cafodd angladd lluosog ac anrhydeddus, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. E. R. Jones, J. Cadwalader a Dr. W. Gladden.

Y Drych ~ Ebrill 17eg 1884.