MRS. MARY JONES. NYFFRYN, LA CROSSE, WISCONSIN.
Tachwedd 24, 1884, yn Nyffryn LaCrosse, Wisconsin, mewn ardal a elwir Big Creek, Mrs. John F. Jones, yn 59 mlwydd oed.Y darfoledigaeth oedd ei hafiechyd ac er ei bod wedi mwynhau iechyd da ar hyd ei hoes yn flaenorol i hyn, llwyddodd y gelyn dinystriol a thwyllodrus hwn i dynu i lawr holl golofnau y tŷ o glai mewn tua thri mis o amser.
Claddwyd ei chorff mewn modd parchus yn mynwent y T. C. yn Fish Creek, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. John J. Vaughan. Teimlai ysgrifenydd hyn o linellau yn ofidus fod amgylchiadau neillduol wedi ei atal i gymeryd rhan yn ngwasanaeth angladdol y chwaer hon, am ei bod yn aelod ffyddlon iawn yn un o'r eglwysi sydd dan ei ofal er's dros un mlynedd ar ddeg.
Ganwyd Mrs. Jones yn Tanymorfa, plwyf Clynog, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, a'i rhieni oeddynt William a Catherine Williams. Bu ei mam farw pan nad oedd hi ond pum' mlwydd oed, a chymerwyd hi i'w magu gan ei hewythr a'i modryb, Lewis a Catherine Griffiths, y rhai a gartrefant yn Tros-gol.
Yn 1851 symudodd gwrthrych hyn o nodiadau o Gymru i'r wlad hon, a gwnaeth ei chartref yn Slatington, Pennsylvania. Yn mhen tua dwy flynedd ar ôl hyn ymunodd mewn priodas â Mr. John F. Jones, a bu iddynt wyth o blant, ond yr oedd un wedi ei gladdu o flaen y fam. Symudodd y teulu o Slatington i Danville, ac oddiyno i Ixonia, Wisconsin, ac o Ixonia, tua phymtheg mlynedd yn ôl, daethant i'r ardal lle maent yn cartrefu yn bresenol.
Colled fawr i'r teulu, i'r ardal ac i'r eglwys oedd symudiad gwraig mor rinweddol â Mrs. Jones o'n plith; ond nid oes un amheuaeth nad yw ein colled ni wedi bod yn elw mawr ac yn enill tragwyddol iddi hi.
Cafodd ei magu yn grefyddol a'i dwyn i fyny yn eglwys Dduw, a glynodd yn ei phroffes mewn modd ffyddlon a diargyhoedd hyd ei bedd. Gwnaeth ymdrech mawr i ddwyn ei phlant fyny yn grefyddol, ac i'w dysgu a'u hegwyddori yn ngwirioneddau yr efengyl, ac y mae gweithredoedd yn ei chanlyn, a ffrwythau yn aros, ag sydd yn profi yn amlwg na bu ei llafur ddim yn ofer yn yr Arglwydd. Caffed y priod sydd yn weddw, a'r plant sydd yn amddifaid, trwy y farwolaeth hon, gymorth i drigo yn nirgelwch y Goruchaf, ac i aros yn nghysgod yr Hollalluog, fel byddo i'r dydd blin a'r brofedigaeth chwerw droi yn fendith iddynt oll.
H. MEURIG PUGH.