MR. THOMAS G. JONES. FAIR HAVEN, VERMONT.
Medi 9fed, 1883, yn Fair Haven, Vermont, yn 64 mlwydd oed, oddiwrth effeithiau strangulated hernia, Thomas G. Jones.Daeth ef a'i briod i'r wlad hon 27 mlynedd yn ôl o Lanberis, Sir Gaernarfon, ac ymsefydlasant yn y lle uchod. Yr oedd yn frawd i'r diweddar Barch. William Jones, Rehoboth, Llanberis, yr hwn sydd wedi ei regflaenu i ffordd yr holl ddaear er's ychydig gyda blwyddyn. Ni bu yn glaf ond am bedwar diwrnod, ac ni ddychmygodd neb ar y dechreu fod y clefyd hwnw i farwolaeth. Yr oedd wedi "brifo," fel y dywedir, pan yn ddwy flwydd oed, a dyoddefodd lawer yn achlysurol oddiwrth ei effeithiau. Nos Wener, y 5ed cyfisol, bu raid iddo fyned o dan operation, a daeth drwyddi yn llwyddianus; ond yn lle cryfhau dechreuodd wanychu, ac er pob ymdrech a gofal meddygon a chyfeillion, bu farw y nos Fawrth canlynol, a gadawodd briod oedranus mewn unigedd i alaru ei cholled ar ei ôl.
Y dydd Iau dylynol, cludwyd ei weddillion marwol i orwedd wrth ochr ei unig fab yn yr Hen Fynwent, Fair Haven. Yr oedd ei angladd yn lluosog a pharchus iawn. Yr oedd yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd er's blynyddoedd, yn athraw defnyddiol yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn gerddor da. Rhyfedd yw meddwl fod yr un oedd wythnos i heddyw (Gwener) yn dylyn ei orchwyl yn y chwarel mor fywiog a llon ag erioed, erbyn hyn wedi tewi yn yr angeu, "A'i le nid edwyn ddim o hono ef mwy." "Gwyliwch, gan hyny, canys nis gwyddoch pa bryd y daw Meistr y ty."
J. M. HUGHES.