MR. THOMAS JONES. GWALIA DEG, NEBRASKA.
Medi 4ydd, 1884, yn Gwalia Deg, Nebraska, yn 63 mlwydd oed, Thomas Jones, diweddar o Creiglau Mawr, Talysarn, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.Daeth tyrfa luosog yn nghyd i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref Medi 5ed. Cafwyd pregeth effeithiol yn y tŷ cyn cychwyn.
Daeth yr hen ŵr, yn nghyd a'i wraig a'i ferch ieuengaf, i'r wlad hon yn Mehefin, 1883. Yr oedd yn gadael pedair o ferched ar ei ôl yn briod yn yr Hen Wlad. Yr oedd ei dri mab yma o'i flaen. Yr hynaf o honynt oedd un o sefydlwyr blaenaf a mwyaf llwyddianus yr ardal hon. Mwynhaodd yr hen ŵr iechyd rhagorol hyd nes y cymerwyd ef yn glaf o'r dysentery, rhyw ddeunaw diwrnod cyn ei farwolaeth.
Yr oedd yn selog iawn gyda'r moddion Cymraeg. Gweithiodd yn egniol yma am amser byr ac yna aeth i orphwys.