MRS. GEINOR LLOYD. WARRIOR RUN, PENNSYLVANIA.
Medi 2ail, 1884, yn Warrior Run, Pennsylvania, yr hen chwaer Geinor Lloyd, yn 74 mlwydd oed.Claddwyd hi y dydd Gwener canlynol yn mynwent Nanticoke, a gweinyddwyd yn y tŷ, y capel ac ar lan y bedd gan y Parch. W. F. Davies.
Ganwyd Mrs. Lloyd yn Dinas Mawddwy, Gogledd Cymru. Priododd pan yn 22 oed ag un Joseph Lloyd. Bu iddynt ddeuddeg o blant, pump o'r rhai sydd yn fyw - oll yn America oddigerth un.
Daethant i'r wlad hon o Goginan, De. Cymru, a sefydlasant yn Dover, New Jersey, ac aethant oddiyno i Upper Lehigh, a thrachefn i Warrior Run, lle terfynodd ei gyrfa ddaearol.
Yr oedd wedi bod yn grefyddol am 54 o flynyddoedd, ac yn aelod hardd trwy yr holl gyfnod. Cartrefai cyn ei marw gyda ei mab Joseph, yr hwn yn nghyd a'r plant eraill oeddynt dyner iawn ohoni.
Bydd coflant iddi yn y Wawr. Nawdd y nef ar y perthynasau oll.
RHODYNOG.