MRS. CATHERINE H. OWENS. SLATINGTON PENNSYLVANIA.

Mai 29ain, 1884, yn Slatington, Pennsylvania, Mrs. Catherine H. Owens, priod Mr. William H. Owens, yn 31 mlwydd oed.

Priodasant oddeutu deg mlynedd yn ôl, a bu iddynt dri o blant. Ber oes fu i'r hynaf, ac ar enedigaeth yr ieuengaf y dybenodd hithau ei gyrfa, a chafodd ei baban i'w chanlyn.

Y mae un bachgen, saith mlwydd oed, yn aros gyda'i dad i sylweddoli'r golled am fam dyner a serchus neillduol.

Merch ydoedd i Benjamin a Catherine Roberts, y rhai a ymfudasant i'r lle hwn 18 mlynedd yn ôl o Llanllechld, Arfon, Gogledd Cymru. Cafodd ei magu gyda chrefydd, a dylynodd ei phroffes hyd ei bedd.

Un a hoffid yn fawr gan ei chydnabod ydoedd Catherine; meddai galon agored, lawn o gydymdeimlad â phawb - wylai gyda y rhai fyddai yn wylo, a llawenhai gyda y rhai fyddai lawen yn naturiol, a hollol rydd oddiwrth bob ffuantrwydd a chelfyddyd. Mae ysbrydoliaeth ei bywyd wedi caethiwo lluaws mawr o'i chymydogaeth a'i pherthynasau mewn hiraeth dwys ar ei hol, ac yn eu plith yr ysgrifenydd.

Cafodd angladd lluosog a pharchus. Canwyd y penill, "Bydd myrdd o ryfeddodau," a.y. gan y dorf tra'n cerdded yn arafaidd tua'r gladdfa, a phregethwyd yn effeithiol ar yr achlysur gan y Parch. E. R. Lewis, Hyde Park, yn Williamstown. Nerthed yr Arglwydd ei phriod trallodus gyda'i fachgen bychan i ymgynal dan bwys y brofedigaeth lem hon.
JOHN W. MORRIS.

Y Drych ~ Gorffennaf 3ydd, 1884.