MRS. ELIZABETH PETERS PRITCHARD. FOX LAKE, DODGE COUNTY, WISCONSIN.
Medi 7fed, 1884, yn Lake Emily, Wisconsin, ar ôl byr gystudd, Mrs. Elizabeth Pritchards, yn 82 mlwydd a 5 mis oed.Yr oedd yn enedigol o Fwlchderwin, plwyf Clynog, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Ymunodd a chrefydd pan yn 27 mlwydd oed, a hyd y gwyddom ni bu dan gerydd eglwysig. Ar ôl priodi bu yn cadw tŷ capel yn Llanfairfechan yn agos i Benmaenmawr am 12 mlynedd.
Ymfudodd y teulu i'r wlad hon yn 1850, a sefydlasant yn Lake Emily lle y bu hi yn cartrefu hyd derfyn ei gyrfa. Bu iddi chwech o blant, o'r rhai y mae tri yn fyw. Collodd Mrs. Pritchards ei phriod yn 1866, a gwnaeth ei chartref gyda'i mab Thomas Pritchards a'i deulu. Cafodd bob gofal a thynerwch hyd angeu oddiar law Mrs. Pritchards. Bu farw o wendid mae'n debyg, ni ddywedodd fawr ar ôl ei tharaw, ond awgrymu ei bod yn eu gadael.
Tystial Mrs. Pritchards, ei merch yn nghyfraith, y teimlai yn hyderus ar droion fod cyfamod ei hieuenctyd yn dal, a'i bod yn cynesu yn ei hysbryd fel yr oedd yn nesau tua'i diwedd.
Ystyrid hi yn wraig ddystawa diniwed yn yr ardal.
JOHN R. DANIEL.