MR. GRIFFITH ROBERTS, GENESEE, WAUKESHA COUNTY, WISCONSIN.

MR. GRIFFITH ROBERTS, GENESEE, WAUEESHA COUNTY, WISCONSIN. Ganwyd Mr. Griffith Roberts yn Hendref-feinws, plwyf Abererch, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, Mehefin 15fed, 1796.

Mab ydoedd i Robert ac Ann Griftith. Yn ôl yr hen arferiad. cafodd Griffith ei gyfenwi yn ôl enw cyntaf ei dad. Pan ydoedd yn 19 oed aeth i Four Crosses i ddysgu gwaith gof, a'r pryd hwn yr ymunodd ag eglwys y M. C. yn y lle a nodwyd.

Ymunodd mewn priodas ag Ann, merch i Morris Jones, Bwlan, pan yn 25 mlwydd oed. Gosododd i fyny waith iddo ei hun yn Cenyn, Brynengan, ac yma galwyd ef i weinyddu swydd diacon, pan yn 36 mlwydd oed. Aeth i Gymanfa y Bala ugain o weithiau yn olynol, ac ynddynt byddai yn cael gwledd i'w enaid.

Symudodd i'r wlad hon yn 1842, a sefydlodd yn Trenton, N. Y., ac yn mhen blwyddyn ar ôl hyn daeth i Genesee, Waukesha County, Wisconsin, a phrynodd dir gwn y Llywodraeth. Yn fuan ar ôl hyn aed ati i adeiladu tŷ addoliad a adnabyddid wrth yr enw Capel Log, ar y lle y saif capel Jerusalem yn awr. Yr oedd Mr. Roberts yn un o'r sefydlwyr cyntaf yn Waukesha, a bu yn flaenllaw gyda symudiadau crefyddol, ac i gynal cyfarfodydd gweddi o dy i dy. Bu yn nerth mawr pan oedd yr achos yn wan, gan ei fod yn fwy doniol na'r cyffredin, a gwasanaethodd swydd diacon yn ffyddlon am 52 o flynyddoedd. Bu yn ymdrechgar gydag achos y Gwaredwr yn ei holl ranau.

Mae un peth yn ei hanes y dylid ei goffâu. Pan oedd yn croesi y mor i'r wlad hon, cawsant eu goddiweddyd gan storm enbyd. Tarawodd y gwynt cryf ar unwaith yn erbyn pen blaen y llong, gan ei gyru yn ei gwrthol, a'r tonau mawrion yn ymluchio yn ei herbyn; y morwyr yn methu troi yr hwyliau, ac yr oedd yr ymgais ar y fath amgylchiad yn risk ofnadwy. Teimlai pawb nad oedd ond dyfrlyd fedd yn eu haros, a hyny ar unwaith.

Yr oedd y Cymry oedd ar y bwrdd, ar y pryd yn addoli. Aeth Griffth Roberts i weddi, a llefodd o waelod ei enaid, "O Arglwydd, arbed ni, a dangos am unwaith dy fod yn wrandawr gweddi." Gyda ei fod yn gorphen dweyd hyn, gostegodd y gwynt, a throdd i gyfeiriad arall, a hyny mewn eiliad! Cefais yr hanesyn hwn gan ddau ddyn oedd yn y llong ar y pryd. Fel y gwyr llawer, yr oedd gan Griffith Roberts yr hyn a elwir "dawn gweddi," tu hwnt i'r cyffredin. Clywais y Parch. Rees Evans yn dweyd na chlywodd ef neb erioed yn fwy doniol. Byddai ganddo gyflawnder o eiriau cymwys, a llais swynol, fel ar amserau yr oedd yn effeithiol iawn; a byddid yn galw arno i ddechreu oedfaon mewn Cymanfaoedd a Chyfarfodydd Dosbarth.

Pan yn son am ddawn gweddi, meddylia dynion am eiriau a llais, ond mewn gwirionedd, nid mewn geiriau a llais y mae dawn gweddi yn gynwysedig. Mae dawn gweddi yn beth anweledig ac anghlywedig; yn llef heb lais; yn beth nad oes neb ond Duw a'r pechadur yn ei ddeall; yn beth er dyhysbyddu iaith i gael y geiriau goreu, a chael holl beroriaeth sain, nas gellir gweddio hebddo; yn beth nad yw gweddi hebddo ond corph heb enaid. A chredwn fod Griffith Roberts ar amserau yn feddianol ar y peth hwn.

Yr oedd yn un hynod am fynychu pob moddion o ras. Nid yn unig ceid ei weled yn gwrando ar y Sabboth, ond byddai yn mhob cyfeillach a chwrdd gweddi hyd yr oedd modd. Yr oedd yn un o'r gwrandawwyr goreu. Yr oedd yn wrandawr hen ffasiwn, oblegid os cai y pregethwr dipyn o hwyl, caed clywed ei Amen dros y capel. Y mae pob Amen yn nghapel Jerusalem, os nid yn yr ardal, wedi darfod yn marwolaeth Griffith Roberts. Wrth ddweyd hyn nid ydym yn golygu nad oes teimladau, ond ni cha y teimlad dori allan mewn Amenau, am fod hyny wedi myned allan o'r ffasiwn.

Nid oedd yr hen frawd yn gallu deall pregeth Seisnig, eto ni byddai yn aros gartref am fod pregeth Seisnig yn y capel: a byddai yn gwrando fel pe buasai yn deall pob gair; ac un tro torodd allan i ddweyd Amen yn uchel, a chafwyd tipyn o joke arno, a dywedai un o'r brodyr wrtho ei fod wedi dweyd Amen pryd na ddylai, a bod yn rhaid iddo ofalu na ddywedai Amen wrth wrando pregeth Seisnig byth mwy. Yr ydoedd yn mwynhau y joke, oblegid er ei fod yn hen, yr oedd yn teimlo fel bachgen; ond nid oedd yn addaw y byddai yn ddystaw. Byddai yn myned i bob Cymanfa a Chwrdd Dosbarth, heb dalu sylw i henaint, traul na thrafferth. Byddai yn dda genym ddeall i sicrwydd pa sawl Cymanfa y bu ef ynddi: mentrwn ddyweyd eu bod tua chant!

Yr oedd yn hael iawn yn ei gyfraniadau tuag at achosion crefyddol. Nid oedd o ran ei amgylchiadau uwchlaw y cyffredin, ac eto nid yn unig yr oedd ar y blaen yn ei gyfraniadau tuag at y weinidogaeth ac achosion cartrefol eraill, ond byddai yn rhoddi $5 tuag at y Feibl Gymdeithas, a $5 tuag at y Genhadaeth, bob blwyddyn.

Nid oedd Griffith Roberts heb ei waeleddau, ei bechodau, a'i wendidau. Pwy sydd heb y rhai hyn? Byddai ar adegau yn gryn dipyn o blentyn, fel y dywedir, a gwnai dynion weithiau gymeryd mantais ar hyn. Er ei fod yn agored i gael ei dwyllo, ymddengys nad oedd dichell yn ei ysbryd. Barn y cyffredin yw, mai hen Gristion oedd Griffith Roberts.

Yr oedd wedi cyrhaedd gwybodaeth lled helaeth yn yr Ysgrythyrau. Yr oedd ganddo lawer o lyfrau, a byddai yn darllen llawer. Clywid ef yn canu a gweddio yn y nos yn aml, nes deffro y teulu. Nid oedd byth yn uchel iawn o ran ei brofiad, ond fel peth cyffredin ceid ei glywed yn adrodd ei ofnau a'i amheuon; eto ambell waith byddai ar uchelfanau y maes.

Yr oedd yn gerddwr rhagorol, a byddai yn cerdded llawer yn ei hen ddyddiau, a diau i hyn fod yn lles iddo. Wedi i mi gael gofal eglwys Jerusalem, a symud allan i Waukesha i fyw, yr oeddwn yn awyddus i dalu ymweliad a'r aelodau, ac addawodd yr hen frawd ddod gyda mi ar ei draed i ddangos y teuluoedd; a buom yn cerdded o dy i dy, o wyth o'r gloch yn y boreu hyd naw o'r gloch yn yr hwyr. Ỳr oeddwn i wedi blino yn dost, ond yr oedd yn gas genyf ddangos hyny, oblegid nid oedd fy nghydymaith yn yngan gair, er ei fod ar y pryd yn 82 mlwydd oed!

Yn y blynyddoedd diweddaf o'i oes, yr oedd yn byw gyda ei fab-yn-nghyfraith, Mr. Thomas D. Jones, lle y cafodd bob tynerwch, am ymgeledd dda gan ei ferch. Cafodd ei gaethiwo i'w dŷ am tuag wyth mis cyn marw, er na bu yn cadw ei wely ond am tua mis, a deallodd fod ei ddyddiau ar derfynu, a bod angeu wrth y drws. Teimlai nad oedd yn ymwelydd dymunol o gwbl, a pharhaodd i weddio am nerth hyd nes y tynodd yr anadliad olaf. Rhyw wythnos cyn iddo farw, gofynwn iddo pa fodd yr oedd yn teimlo. Atebai, "Rhy fach o obaith i fod yn dawel, a gormod i ollwng fy ngafael." "A yw yn bosibl," meddai, "i bechadur mawr fel fi gael ei gymeryd i le mor lân a'r nefoedd." Gofynwn a oedd ef yn sicr o ryw beth. Atebodd, "Yr wyf yn sicr fy mod yn caru Iesu Grist, ac nad oes genyf ddim i bwyso arno ond aberth y groes." Buwyd yn cynal cyfarfodydd gweddi gydag ef yn ei ddyddiau olaf; ac yn y cwrdd gweddi diweddaf a gafwyd gydag ef cododd ar ei draed i siarad, ac yn y modd fwyaf taer gwnai ein hanog i fod yn ffyddlawn, a pharhaodd i siarad nes pallodd ei nerth.

Bu farw Gorphenaf 18fed, 1884, o henaint hollol, a chafodd ei gladdu yn mynwent Jerusalem ar yr 20fed. Daeth tyrfa fawr yn nghyd i dalu eu cymwynas olaf iddo. Cymerodd gweinidogion yr ardal ran yn y gwasanaeth, a phregethodd yr ysgrifenydd ar yr achlysur oddiar Salm 90 : 10—12.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Rhagfyr 1884.


MR. GRIFFITH ROBERTS, GENESEE, WAUKESHA COUNTY, WISCONSIN.

Mehefin 18fed, 1884. yr hen frawd Griffith Roberts, diacon ffyddlawn yn eglwys Jerusalem, Waukesha, Wisconsin, yn 88 oed.

Yr oedd yn un o'r sefydlwyr cyntaf yn mysg y Cymry yn y rhan hon o'r wlad. Ni gellir dweyd fod arno un clefyd neillduol, ond iddo farw o effeithiau hen ddyddiau.

Ar yr 21ain daeth lluaws o'i hen gyfeillion ac eraill yn nghyd i dalu eu cymwynas olaf i'r hen bererin, a rhoddwyd ef i orwedd yn mynwent Jerusalem. Cymerodd y Parch Hugh Roberts ran yn y gwasanaeth crefyddol a thraddodwyd y bregeth angladdol gan yr ysgrifenydd, oddiar Ps. 9i;lu-l2. Anfonir yr hanes gyda mwy o fanylion i'r Cyfaill.
R. H. EVANS.

Y Drych ~ Gorphenaf 3ydd 1884.


MR. GRIFFITH ROBERTS, GENESEE, WAUKESHA COUNTY, WISCONSIN.

BORN: Lleyn Peninsula Caernarfonshire, Wales
WIFE: Anne Jones 1794-1866
MARRIED: June 1, 1821, Llandwrog, Wales
CHILDREN:
* Catherine Davies 1832-1881
* Griffith J. Roberts 1833-1901
* Margaret D. Jones 1835-1907

Griffith Roberts with wife Anne, and daughters Catherine and Margaret emigrated from Hendrefeinws, Caernarvonshire, Wales. in 1842. Griff was a blacksmith/farmer by trade, and the first Welsh blacksmith to settle in the Wales area of Waukesha County, working at the blacksmith trade for several years. The family then settled on sect. 8 in the Township of Genesee to farm.

In 1855 they moved to sect. 6 of the Township of Genesee.
Griff was an elder in the early Welsh C.M. church.

Birth: JUN 1796 in Lleyn Peninsula, Caernarfonshire
Griff emigrated from Hendrefeinws, a small hamlet 3.5 miles north of Pwllheli on the Llyn Peninsula, Carnarvonshire, Wales.

The ship they came over on was named "Hindoo". It arrived at the port of New York May 28 1842. The ages listed were as follows: Griff - 46 and a farmer, Anne age 30, Catharine age 9, and Margaret age 6m.
********************************
The Waukesha Freeman June 26, 1884
Griffith Roberts, after residing in Genesee Township. 41 years, passed away on the June 18th, having reached the ripe old age of 88 years.
********************************

Find a Grave.