MRS. MARGARET E. JONES. GRANVILLE, NEW YORK.

Mai 3ydd, 1884, yn 38 mlwydd oed. Mrs. Margaret E. Roberts, priod Mr. Evan Roberts, Granville, New York.

Merch ydoedd i Robert Thomas Phillips. Nant Ucha, Llanberis, Sir Gaernarfon, yr hwn oedd ddiacon cymeradwy a ffyddlon gyda'r Annibynwyr.

Yn 1867 ymfudodd Mrs. Roberts a'i phriod i'r wlad hon, a buont yn aros yn Jamesville a manau eraill cyn symud i Granville. Bu iddynt naw o blant. Claddwyd y ferch hynaf ychydig flynyddau yn ôl; mae wyth eto yn fyw.

Nos Wener, Mai 2ail, rhoddodd Mrs. Roberts enedigaeth i faban, ac wedi i'r cyfyngder hwnw fyned heibio, sirlolodd y fam a gwenodd y tad, gan feddwl fod y gwaethaf drosodd. Yr oedd y plant a phawb yn llawen ar yr achlysur o enedigaeth mewn gwirionedd yr oedd y tŷ drwyddo draw yn dŷ gwledd; ond O! cyn pen ychydig o oriau yr oedd y tŷ gwledd wedi ei droi yn dŷ galar. Am un o'r gloch boreu dydd Sadwrn gostyngwyd nerth Mrs. Roberts a chymerwyd hi ymaith yn nghanol ei dyddiau.

Y Sabboth canlynol ymgasglodd tyrfa fawr anarferol, yn Gymry a gwahanol genedloedd eraill, i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref yn mynwent Middle Granville. Arolygwyd y claddedigaeth gan y Gwir Iforiaid, a hyny ya deilwng iawn o'r Gyfrinfa. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan yr ysgrifenydd - pregeth wyd yn y tŷ oddiwrth Ps. xxxlx. 9, ac wedi canu yr hen benill hwnw ar lan y bedd,

"Bydd myrdd o ryfeddodau
Ar doriad boreu wawr,"

cefnodd y dorf fawr ar ei beddrod, mewn teimladau hiraethlawn, ac yn ymwybodol ein bod wedi rhoddi i orwedd yn y ddaear y diwrnod hwnw un o'r mamau anwylaf a'r addfwynaf erioed. Yr oedd Mrs. Roberts yn un o'r gwragedd goreu er lles ei theulu - byddai bob amser yn gwarchod gartref yn dda. Yr oedd yn un weithgar a threfnus, yn un o dymer siriol a charedig. Yr oedd yn un nodedig am ei hamynedd, ei harafwoh, ei haddfwynder a'i llarieidd-dra; pleser ei chalon bob amser oedd gwneyd cymhar ei bywyd a phawb o'i chwmpas yn ddedwydd. Fel mam, yr oedd yn wir ofalus am ei phlant. Deulu anwyl, mynwch fendith oddiwrth yr amgylchlad; cofiwch mai Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon yw Duw yn ei breswylfa santaidd.
THOMAS M. OWEN.

Y Drych ~ Mehefin 5ed 1884.